Effeithiwyd yn ddrwg 芒'r ei ochr dde gyfan a'i leferydd, a bu'r misoedd cyntaf yn rhai o bryder gwirioneddol i'w deulu a'i ffrindiau.
Ond, dydi Gwyn na'i wraig Olwen - ei ben cynhaliwr
drwy'r cyfan - ddim yn rhai i ddigalonni.
Mae stori Gwyn Taylor, gredwn ni, yn galondid
i ddioddefwyr str么c ym mhob man.
Gweithiodd Gwyn yn galed 芒'r ei lais a'i siarad gan lwyddo'n raddol i ennill y dydd. Heddiw mae'n
dystiolaeth amlwg o benderfyniad a dycnwch ac mae ei sgwrsio'n naturiol, yn hyderus a difyr.
Wrth wella'n raddol ei amheuaeth oedd, tybed a fyddai'n gallu 'gwneud' pethau eto. Aeth misoedd heibio ers cyfnod y str么c, ond yn raddol cryfhau wnaeth penderfyniad Gwyn i 'symud ymlaen'. Efo Olwen - ei wraig ers 38 mlynedd - yn ei annog yn gadarn, ond heb 'neud gormod o ffws', penderfynwyd rhoi bywyd newydd i'r sied fach wrth ddrws y cefn. Bellach sefydlwyd Gweithdy Gwyn!
Bellach dechreuodd deimlo'r amser yn pasio'n llawer cynt gan ei fod yn awr yn 么l wrth ei grefft, crefft y saer. Dyfeisiwyd sut i weithio lli drydan yma, feis yn y fan acw a daeth defnydd hefyd i'r offer llai. Dechreuodd gynllunio ac adeiladu pethau digon o ryfeddod, yn flychau bwydo
adar, blychau plannu blodau ac ati. Piciwch ato fo i'r cefn
ryw bnawn braf cyn diwedd yr ha'. Mi gewch groeso.
Mae Olwen - heb anghofio'i hoffter o dyfu rhosod 卢wedi bwrw iddi i helpu Mudiad Cymdeithas Str么c ym M么n. Pob bendith a dymuniad do i Gwyn wrth ei hobi werthfawr yn ei weithdy ac i Olwen am ddangos iddo fo bod cymaint yn bosibl.
|