Roedd actio slic a hwyliog iawn dan gyfarwyddyd pendant Branwen Davies. Erbyn i chi ddarllen yr adroddiad hwn byddant wedi perfformio'r ddrama am yr ail waith yn Theatr Fach Llangefni, fel rhan o Wyl Wil Sam. Edrychwn ymlaen yn barod am eu cynhyrchiad nesaf! Mrs Nel Jones, Llansadwrn oedd yn cyflwyno'r noson ac yr oedd pawb mor falch ei gweld wedi gwella mor dda ar 么l eu llawdriniaeth. Yn ystod y noson cafwyd gair gan Rhiain Owen, cadeirydd y pwyllgor. Soniodd ein bod wedi cael tymor llwyddiannus iawn a diolchodd i'r pwyllgor a phawb oedd wedi helpu i wneud hynny'n bosibl. Rhaid diolch yn fawr iddi hithau hefyd am ei harweiniad cadarn.
|