大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Y diweddar Owen Robert Jones Marathon Llundain
Ebrill 2009
Mae heddiw'n fraint. Rwy'n cael cyfarfod y teulu annwyl hwn, y fam a'r ddau fach, ar aelwyd Erw Deg, Llanbedrog.

Gobeithiaf y bydd s么n amdanynt yn helpu pawb ohonon ni i gofio - a diolch - am fywyd llawn, gwerthfawr, ond creulon o fyr y diweddar Owen, g诺r Lynne.

Roedd Owen Robert Jones yn gariad, priod a thad arbennig iawn, ond bu farw o glefyd leukaemia dwys yn Rhagfyr 2007 ac yntau'n ddim ond deg ar hugain oed.

Efallai y bydd heddiw yn hwb bach i ysbryd Lynne a'r teulu ac yn symbyliad hefyd i ninnau, bawb sy'n darllen, ei helpu hi.

Gadewch i ni ymuno yn ymdrech Lynne a thair o'i ffrindiau, sydd am godi cymaint o arian ag sy'n bosibl at ymchwil cancr, wrth iddyn nhw redeg ym Marathon Llundain ddiwedd Ebrill. Gwnawn ein gorau.

Daw Lynne yn wreiddiol o Langoed ac yno yn Ffynnon Lwyd y mae ei rhieni, Mr Peter a Mrs Janice (Jan) Lloyd Roberts yn parhau i fyw heddiw. Dyma'r taid a nain o'i hochr hi a fu, ac sydd o hyd, mor bwysig i Lynne. Mae ganddi hefyd un brawd, Wil, sy'n byw yn Thailand.

Mae 'na wrth gwrs daid a nain hollbwysig arall, yr un mor annwyl a gwerthfawr yng ngolwg Lynne. Mr Robin a Mrs Ceinwen Jones, Cae Isa, Llansadwrn, ydyn nhw, sef rhieni Owen.

Ef oedd yr hynaf o'u pedwar plentyn, gyda Dewi, Si么n ac Eleri yn dilyn. Rwy'n si诺r bod y ddau daid a'r ddwy nain a'r teuluoedd agos yn deall yn iawn bod ein cofion mwyaf diffuant ni, griw paratoi Papur Mena yn cael eu hanfon atyn nhw i gyd.

Sonia Lynne am y dyddiau cynnar gydag Owen. Roedd y ddau yn gariadon ers dyddiau Ysgol David Hughes a doedd dim gwahanu i fod. Astudiodd hi seicoleg yn y Brifysgol yn Stoke on Trent a graddio, ond dod yn 么l i Wynedd yn weithiwr cymdeithasol a phriodi Owen.

Mae eu dau blentyn bach, Cian Robert (tair oed) ac Elin Llwyd (dwy) yn llenwi'r t欧 heddiw.

D么nt atom bob hyn a hyn a Cian bach yn cadw enw'i dad i mewn yn hollol naturiol yn ein sgwrs. Mae Lynne yn llawn edmygedd a diolch o hyd am waith a gofal y staff ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Oni bu hi ei hun yn byw yno bron dros gyfnod gwaethaf salwch Owen.

Roedd Owen cyn ei farw, meddai Lynne, wedi mynegi'n gadarn yr hoffai ef wneud rhywbeth cadarnhaol dros eraill i helpu'r frwydr yn er cancr.

Er mwyn gwireddu ei ddymuniad, penderfynodd Lynne fwrw ati ei hun. Roedd ganddi erbyn hyn nod ychwanegol yn ei bywyd. Roedd am gadw'r cof am chariad at Owen yn fyw, er mwyn y ddau fach ac, bendant, er mwyn i eraill sy'n dioddef o leukaemia gael gobaith gwellhad.

"Dwi'n gwybod be fasa Owen isio i mi neud. Magu Cian ac Elin yn ofalus a helpu i ymladd yr hen gancr yma bob cyfle ga' i."

Yn ystod haf 2008, trefnodd ocsiwn lwyddiannus iawn yng Ngwesty Carreg M么n.

Rhwng popeth, mae hi a ffrindiau erbyn hyn wedi codi dros 拢20,000 i Ymchwil Leukaemia.

Dyna felly pam mae hi ac Eleri, chwaer Owen, Ceri o Henbont yng ngogledd M么n sy'n gyfnither i Owen, Eleri a'u brodyr, a hefyd Nayla, ffrind agos o Gaernarfon, yn benederfynol o redeg a gorffen Marathon Llundain ar 27 Ebrill.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy