Roedd Dydd G诺yl Ddewi eleni yn un arbennig iawn i mi oherwydd cefais fy newis i gynrychioli Ysgolion Cynradd M么n yn Agoriad Swyddogol y Senedd.
Euthum i lawr y diwrnod cynt, ac fe gymerodd y siwrne chwe awr oherwydd roedd y tywydd yn rhyfedd - yn eira trwm un funud ac yn heulog y funud nesaf.
Erbyn i ni gyrraedd roedd yn 5 o'r gloch ac euthum ar unwaith i weld y Senedd newydd.
Er nad oedd wedi cael ei agor yn swyddogol roedd trafodaethau yn digwydd yno'n barod.
Cawsom docynnau i weld un o'r trafodaethau, ac roedd yn amlwg bod cynllunwyr y Senedd wedi meddwl am bopeth.
Roedd lle addas i'r anabl ac roedd yr holl aelodau o'r Senedd a chyfrifiadur o'u blaenau.
Roedd amser penodol wedi ei drefnu i bawb siarad, fel nad oedd unrhyw drafodaeth yn cael mynd ymlaen yn rhy hir.
Roedd yr aelodau hefyd yn medru derbyn e-bost yng nghanol trafodaeth ac yn gallu pleidleisio ar y sgrin o'u blaenau.
Roeddem yn aros yng Nghanolfan y Mileniwm a phan aethom yn 么l yno dywedodd Mr Rheinallt Williams, un o'r trefnwyr, fy mod i a merch o'r Wyddgrug o'r enw Rhiannedd wedi cael ein dewis i ddadorchuddio'r plac o flaen y Frenhines i ddynodi bod y Senedd wedi agor yn swyddogol.
Roedd yn rhaid i ni fynd i'r Senedd ar 么l swper i ymarfer, ac roedd rhyw wraig yn actio'r Frenhines a ninnau'n dadorchuddio'r plac o'i blaen.
Bore wedyn euthum i'r Senedd erbyn 10 o'r gloch. Roedd pobl wrthi'n glanhau y carped coch a minnau'n sefyll wrth y plac.
Am 11 o'r gloch yn brydlon, cerddodd y Frenhines i mewn trwy'r drws lled agored gyda'i g诺r a phan nodiodd Dafydd Elis Thomas roedd hynny'n arwydd i Rhiannedd a minnau dynnu'r llen.
Yn anffodus, amharodd y Frenhines ar y trefniadau a dechrau tynnu'r llen ei hun!
Ni welsom araith y Frenhines i'r Senedd, dim ond ar sgrin deledu. Ar 么l hynny, gofynnwyd i ni'r plant a'u rhieni sefyll mewn rhes a daeth Camilla i siarad hefo mi.
Gofynnodd o ble roeddwn i'n dod a dywedais wrthi fy mod o Llanfairpwll.
Dywedodd hithau ein bod wedi teithio o bell felly, ond dywedodd Rhodri Morgan oedd yn sefyll wrth ei hymyl, "Erbyn i chi ddweud yr enw'n llawn rydach chi hanner ffordd yna!"
Ar 么l hyn cefais bum cyfweliad ac ysgwyd llaw hefo Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan.
Gofynnodd un dyn papur newydd i mi beth oeddwn yn ei feddwl o'r Frenhines, ond dywedais nad oeddwn yn gwybod gan na siaradodd hefo mi.
Gofynnodd a oeddwn yn meddwl ei bod yn gl锚n; atebais innau ei bod, am wn i.
Yn y Western Mail y bore wedyn darllenais "Gethin Wyn Davies from Llanfairpwll declared that the Queen had been kind!" Rhaid bod yn ofalus be dachi'n ei ddweud wrth y Wasg.
Sut bynnag, cefais ddiwrnod bythgofiadwy ac yn Ddydd G诺yl Ddewi gwahanol iawn i bob Gwyl Ddewi arall.