Bu aelodau yn ymrafael am Darian HRM Hughes yn Ffair Aeaf M么n a Bodedern ddaeth i'r brig unwaith eto. Cafwyd cryn lwyddiant yn y byd barnu stoc yn Ffair Aeaf Builth. Daeth Sian Roberts yn gyntaf am farnu 诺yn. Cafwyd noson dda iawn o gemau dan do dan ofal Clwb Bodedern ac aelodau Llangefni ddaethi'r brig gyda Bodedern yn ail a Dwyran a Phenmynydd yn gydraff drydydd. Yn dilyn cyfres o gystadlaethau siarad cyhoeddus sirol drwy gydol y flwyddyn daeth cystadleuaeth Cymru yn Nhywyn, Meirionnydd a daeth y tim 14 oed a iau yn fuddugol sef Non Williams ac Ynyr Williams o Glwb Bodedern ac Elin Rowlands o Glwb Llangefni. Daeth y wobr am brif siaradwr hefyd i Non. Daeth y tim 26 oed a iau, Aled Thomas, Llinos Parry, a Martin Roberts o Fodedern, Elin Wyn Jones o Langefni a Fiona Bridle o Benmynydd, yn drydydd gyda pherfformiadau lliwgar iawn yn y gystadleuaeth Siarad ar 么l cinio. Mae'r aelodau i gyd yn edrych ymlaen erbyn hyn at gyfnod y Rali fydd ar Fali 8fed ar safle Sioe M么n. Rydym yn gobeithio y bydd pawb sydd wedi bod yn aelod o'r Mudiad yn y gorffennol yn ymuno gyda Clwb CAFFI sef Cyn Aelodau Ffermwyr Ifanc. Bydd y Clwb yn cyfarfod tua tair gwaith y flwyddyn gyda'r bwriad o gymdeithasu ond hefyd i helpu'r aelodau ifanc. Bydd y cyfarfod cyntaf yn Cartio M么n Bryngwran ar Ebrill 9fed.
|