Bu'n gweithio'n wirfoddol am charter canrif i'r sefydliad hwnnw, sy'n hyfforddi pobl i roi clust i gyplau mae eu priodas ar fynd ar chw芒l. Yn ei dull diffwdan, cartrefol, amlinellodd Eleri ddull y mudid o weithio.
Sefydlwyd Relate yn 1938 ac ame eu Coleg Hyfforddi yn Rugby.
Dysgir amrwyiol sgiliau i'r ymgynghorwyr cyn iddynt fynd ati i fod yn wrandawyr i broblemau cyplau priodl
Yn Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor yr oedd eu Canolfan pan ddechreuodd Eleri ar y gwaith, a phrofodd weithio yn yr atig, mewn cwt, ac yn 'Stafell Wisgo'r Maer!
Dipyn o brofiad mae'n siwr.
Erbyn hyn mae ganddyn Ganolfan yn Ffordd yr Abaty ym Mangor.
Diolchwyd i Eleri ar ein rhan gan Ceinwen Jones; aeth ymlaen i gyflwyno ail ran y noson, sef dathlu'r ffaith ein bod fel cangen yn 40 oed.
Ddeugain mlyned yn 么l ym mis Ebrill daeth criw bychan ohonom dan ysgogiad y ddiweddar Emig Owen, Treflys, i Neuadd yr Eglwys i benderfynu sefydlu cangen, a dyna ni erbyn hyn wedi cyrraedd y deugain.
Roedd yn gwbwl addas mai yr Is-Lywydd presennol, Ann Morgan, lywyddai'r cyfarfod, gan mai hi oedd ein Llywydd cyntaf.
Yn anffodus, pedair yn unig o'r criw gwreiddiol oedd yn bresennol, sef Ann Morgan, Ceinwen Davies, Mari Jones ac Ella Owens, yr Ysgrifennydd cyntaf.
Gofalodd Mora Barton am deisen eithriadol o ddeiniadol a blasus i ddathlu'r achlysur a chawsom baned wedi'i pharatoi gan Lyn Williams, Menai Thomas, Glenys Owen a Gwenno Millar.
Etholwyd pum aelod newydd ar gyfer Pwyllgor 2009/10, sef Valerie Robert, Glenys Owen, Glenys Pritchard, Menai Thomas ac Eleri Wyn Jones.
Mynd ar daith i Blas Glynllifon fyddwn ym mis Mai, felly, os nad ydych eisoes wedi gwneud, anfonwch eich 拢10 o flaendal i Mora'r Trysorydd, cyn gynted 芒 phosibl os gwelwch yn dda, ac edrychwn ymlaen at noson dda arall yng nghwmni ein gilydd.