Rwy'n adnabod y g诺r arbennig hwn, o ran ei weld ers blynyddoedd lawer. Fo ydy'r cogydd siriol, yr wyneb direidus a'r w锚n y tu 么l i gownter bwyty'r Pili Palas ger y Borth. Yn ddiweddar fodd bynnag wrth wrando arno'n trafod bywyd cefn gwlad, byd adar, anifeiliaid a planhigion gwylltion M么n ar un o raglenni difyrraf Radio Cymru'r 大象传媒 roedd yn rhaid cael sgwrs! Beth well na chael Ifor ei hun i ddweud y stori?
*
"Dwi'n si诺r bod sawl un yn gofyn. A pwy ydi'r Ifor Roberts yma, sydd rai boreau Sadwrn yn siarad am fywyd gwyllt ar y radio ar raglen Gerallt Pennant a'r criw; Galwad Cynnar? Wel, dyma fi!
Cefais fy ngeni ac yn dal i fyw ym Mrynsiencyn. Rwy'n gweithio'n llawn amser yn y Pili Palas, Porthaethwy, lle mae pob math o ryfeddodau, a digon i'w wneud i'r holl deulu, hen ac ifanc.
Hefyd, rwyf yn Warden gwirfoddol efo Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn nhwyni Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn ers rhai blynyddoedd, cyn cael y swydd uchod. Bob munud rhydd oedd gen i, byddwn yn, ac ar y twyni yn gwylio adar, ond tua 1968 cefais y fraint o gyfarfod A. J. Mercer am y tro cyntaf.
Roedd Tony ar y pryd yn gweithio i'r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yng Nghonwy gyda pheth o'i waith yn cael ei wneud yn ardal Niwbwrch. Dyna ffodus o beth bod Tony yn byw ym Mrynsiencyn! Bob dydd bron ar 么l y gwaith yn y gwanwyn, mi fyddwn i'n cael bwyd, ymolchi ac yna rhuthro i dy Tony ac i ffwrdd a ni yn Y Land Rover am y Twyni.
Gan fod Tony yn perthyn ar y pryd i'r Ymddiriedolaeth Ornitholeg Brydeinig, roeddwn yn cael ei helpu i fodrwyo rhai o'r adar.
Dwi'n si诺r eich bod wedi clywed am y gwalch y pysgod, (yr osprey enwog) a nythodd yng Nghymru ers 2004. Wel rwyf yn un o'r gwirfoddolwyr hynny sydd yn helpu'r RSPB i warchod y nyth ac mae'r gwalch yn 么l ac yn nythu eleni eto! Mae hi tua awr a chwarter o siwrnai o Frynsiencyn ond awr a chwarter gwerth ei gwneud.
Heblaw am yr uchod, byddaf (os yw'r amser a'r arian gen i!) wrth fy modd yn trafaelio o gwmpas Prydain a thramor i wylio adar a bywyd gwyllt.
Lle bynnag y byddaf yn ymweld, y peth cyntaf a wnaf yw prynu llyfr ar adar yr ardal neu'r wlad honno. Ers pan rwyf yn cofio, mae gen i ddiddordeb mawr mewn bywyd gwyllt, yn arbennig adar gwyllt, ond rwyf yn cymryd diddordeb mewn blodau gwyllt ac anifeiliaid hefyd. Ers 1976, rwyf wedi cael y fraint o ymweld 芒 gogledd ddwyrain Affrica, yr Aifft, De Affrica (trafaelio o'r dwyrain i'r gorllewin), gogledd a dwyrain Anialwch y Sahara, Gorllewin Affrica, Gwlad Groeg ac Ynysoedd Malta, Gozo, Cuba, Awstralia, Hawaii, Canada, Gogledd America, gan obeithio cael mynd ddechrau'r flwyddyn nesaf, 2006, i Dde America, yr Amazon a'r Galapagos! Mae'n ddiddorol dros ben cael cyfarfod 芒 phobl a gweld bywyd gwyllt y gwledydd.
O ia, mae'n rhaid dweud am y llyfr adar newydd sydd allan. Enw'r llyfr yw Llyfr Adar Iolo Williams. Mae'n llyfr gwerth ei gael, i'w roi yn eich bag cefn wrth fynd i gerdded neu i wylio adar. Llyfr gwych yn wir! Daliwch i wrando ar y Galwad Cynnar. Efallai y clywch fy llais eto ... yn y dyfodol."