Pont newydd sbon! - i'n gwaredu o'r ciws anfarth sy'n ein plagio o fore gwyn tan nos. Sgersli bilif, os 'da chi isio gweld ciws ga iawn triwch chi neud rownd lefrith ar yr M6 ger Birmingham.
Am fod yr ASS yn rhan a ryw siwparffordd Ewropiaidd yr E22 (impresd? - jest i ddangos mod i'n gneud ymchwil cyn minio 'mhensal) sy'n mynd o Iwerddon (rhywsut) i Sweden ac ymlaen i ddyfnderoedd Rwsia rhynllyd ma' rhaid iddi fod yn diwal carijwe yr holl ffor. Er mwyn hwyluso'r siwrne 'ma i'r loris lawn iligals ar eu ffordd i gardota yn Nulyn (gweler rhifyn Tachwedd) rhaid gwneud rwbath am ddat botl nec on Britannia Brij, 'does?
Wrth ystyried y cysylltiad od 'ma sydd rhwng Yr Ynys Werdd a Sweden mae'n debyg mai fflat pac brij gawn ni o Ikea.
Un neith ffitio'n mawn bocsys yn daclus i'w gario ar rwffracs fflyd o Volvos a Saabs. Gan obeithio y bydd pob darn, sgriw a powltan yn y bocsys iawn. Fydd 'haw tw asembl isili deiagrams' werth eu gweld, a garant卯d fydd na ddarn sb芒r heb ei ddefnyddio a neb yn gwybod lle mae o i fod.
Mi fydd yn edrych fel set o silffoedd ond yn hawdd i'w baentio i pa bynnag liw fynnir gan y Cynil-illiad 'na lawr sowth 'fo'r wdst锚n priodol, a digon hawdd rhoi waip sydyn iddo 'fo cadach gwlyb pan fydd yn hel llwch. I sicrhau arian Ewropeaidd i'r Prosiect ac i gryfhau'r cysylltiadau 芒 Sweden fwy byth caiff y llewod eu codi i'r golwg ond bydd rhaid eu gwisgo fel aelodau'r grwp Abba. Mae cysylltiad agos rhwng y cerddorion hyn a'r ardal yn barod - daethant i enwogrwydd a'u c芒n am stesion yn Llundain o'r enw Waterloo. Sy'n rhannu'r un enw 'fo brwydr waedlyd lle collodd Henry Paget rhan helaeth o'i goes - mae'r hanes wedi ei groniclo mewn cerdd epic: i fras ddyfynnu Prifardd Porthaethwy... na ddim Cynan... llall .. John Evans Y B.C. ei hun: 'Marcwis o F么n collodd ei
glun, reit yn b么n wrth ymyl ei din'. Athrylith. Trigai hwnnw (HP ddim JE) ergyd canonb么l o'r bont arfaethedig ym Mhlas Newydd, felly mae'r cysylltiad 芒 pedwarawd scandinafaidd yn un perthnasol.
Bydd angen enw da i'r bont si诺r iawn (Ddy Prunses Diana Memorial Brij? No thanciw!), a rhaid sefyll yn gadarn ac unedig yn erbyn unryw ymgais at awgrym Llychlynaidd fel Svenspan neu Ulrikabrij. Enw 芒 chysylltiadau clos a dwfn hefo'r ardal fydd angen. Enw y gallwn ymfalch茂o ynddo a theimlo ymchwydd o falchder bob tro yr awn drosti ar ein siwrna pwrpasol i n么l bag o ffrosen p卯s o Tesco neu windsgrin wosh o Halfords. Enw ddaw a gw锚n gynnes i'n gwep bob tro bydd rhaid talu'r 拢4.75 o doll i'w chroesi. Enw urddasol wnaiff gyfleu, hybu a hyrwyddo ein hardal hynaws hardd a hanesyddol; ddaw mewn amser i ennill cydnabyddiaeth byd eang ac adlewyrchu ein hyder a brwdfrydedd fel cymuned a chenedl.
Mae gen i dri awgrym i chi:
a) Bont Idris Charles
b) Ddy Hawlgwinvrin Brij
c) Ponte du Margaretwilias
Gyrrwch eich dewis ar gefn papur deg punt i: Llysgenhadaeth Angylsi, 62 Fredi Ljundbyrgg Plaza, Sweden.
(Y dyddiad cau fydd tri diwrnod cyn i chi bostio fo).
O BEN TWR MARCWIS gan y Cocosydd
|