Cwmni Camre Cymru o Ddeiniolen sy'n trefnu'r trip ac y mae'n rhaid i bob un ohonynt godi £3,000 i ariannu'r daith.
Tra'n Honduras byddant yn helpu plant y stryd, trecio'r goedwig a gweithio ar brosiect ymchwil ar un o'r Ynysoedd oddi ar yr arfordir.
Gobeithir cael cyfnod o ymlacio cyn dychwelyd adref. Mae yna dair o ferched ifanc o Landegfan, sef Katie Kirkham, Trem y Menai; Catrin Jones, 8 Bronhaul a Catrin Owen, Preswylfa wrthi'n brysur yn casglu arian i dalu am drip i Honduras ym mis Gorffennaf.
Mae'r tair yn ddisgyblion yn Y sgol David Hughes ac ynghyd â saith o'u cyd-ddisgyblion wedi penderfynu manteisio ar y cyfle i fynd i Honduras gyda Chwmni Camre Cymru o Ddeiniolen.
Arweinir y daith gan Rachel Jones ond bydd yna gyfrifoldebau ar bob aelod o'r tîm.
Yn gyntaf mae'n rhaid iddynt godi £3,000 o arian yr un i ariannu'r daith, a hwy eu hunain sy'n trefnu pob math o weithgareddau codi arian megis Noson Bingo ac Abseilio i lawr Tŵr Marcwis.
Cyn hir bydd y criw yn gwersylla yn Eryri am y penwythnos fel rhan o'u paratoad ar gyfer y daith.
Ar ddiwedd y penwythnos byddant yn Abseilio oddi ar dŵr Castell Penrhyn. Maent yn chwilio am nawdd ar gyfer y daith, felly 'da chi cysylltwch â hwy os ydych yn barod i'w cefnogi.
Bydd y genod yn treulio wythnos ym Mhrifddinas Honduras yn helpu plant y stryd, yna yn trecio yn y goedwig am bedwar diwrnod cyn bod yn rhan o brosiect ymchwiJ ar un o'r Y nysoedd oddi ar yr arfordir. Bydd rhai yn ymweld â chynefin y crwban mor ac eraill yn astudio'r mangroves.
Yn ystod wythnos olaf y daith gobeithia'r tair gael mwynhau eu hunain! Dymunwn yn dda iddynt ar yr ymdrechion codi arian a gobeithiwn y cawn fwy o hanesion i Bapur Menai cyn bo hir.
|