大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Rhaglen Eisteddfod Cyffro yn yr Eisteddfod
Mai 2006
Cyhuddo bardd o 'brynu' awdl
Aeth yn helynt o ddifrif yn Eisteddfod M么n yn y Borth, pan gyhuddwyd bardd oedd ar fin ei gadeirio o 'brynu'r' awdl fuddugol gan fardd arall.
Dyma sut mae Meirion Llewelyn Williams yn adrodd yr hanes:

Un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod hon oedd llwyddiant Dr. W. M. Williams (Fferyllfardd), Llansanffraid, yn ennill y gadair a'i awdl ar y testun 'Distawrwydd'. Thomas Tudno Jones (Tudno, 1844-95), John Owen Griffith (loan Arfon, 1828-81), a John James Hughes (Alfardd, 1842-75?), oedd yn beirniadu chwe ymgais. Ymddengys fod hyd yn oed y waelaf ohonynt yn teilyngu'r wobr. Dyfarnodd y beirniaid awdl 'Salis' yn orau. Rhagorai am fod ynddi rai rhannau 'trawiadol', megis ei hagoriad:

O Ddystawrwydd! ystyriol dawelwch
Hudolus, myfyriol;
Isder bedd, lle pob st诺r baid,
Dyma d'enaid mudanol.

Daeth Ioan Arfon i'r llwyfan i ddarllen beirniadaeth y tri beirniad; ymddengys eu bod yn unfarn ar deilyngdod y cyfansoddiadau, ac mai gwaith 'Salis', sef y Dr William Morgan Williams (Fferyllfardd), Llansanffraid, oedd ar y blaen.

Ar 么l i'r awdur gadarnhau mai ei eiddo ef oedd y ffugenw 'Salis' yn y gystadleuaeth, dechreuodd helynt. Rhuthrodd Ioan Arfon ac Alfardd at yr awdur gan awgrymu ei fod wedi prynu'r awdl gan Gwilym Cowlyd (W. J. Roberts, 1828-1904), am iddynt glywed si am hynny ac nad oeddynt, o'r herwydd, yn rhydd i gadeirio. Daeth Tudno a'r beirniaid arall ymlaen gan sicrhau'r cyfeillion mai y Dr Williams oedd gwir awdur yr awdl.

Aeth yn d芒n rhwng y beirniaid, Dr. Williams, a Gwilym Cowlyd am bron ugain munud. Maentumiai Ioan Arfon ac Alfardd iddynt dderbyn llythyr gan Gwilym Alltwen, sef W. E. Williams, Bryngwran, peiriannydd pur enwog, a bardd cadeiriol Eisteddfod Eryri Llanberis am awdl-bryddest, ac enillydd cad air Eisteddfod M么n Caergybi 1879, am ei awdl 'Y Morwr'. Honnai ef mai Gwilym Cowlyd oedd awdur yr awdl dan sylw, a'i fod wedi ei gwerthu i rhywun. Yr oedd Ioan Arfon ac Alfardd wedi anfon at Owen Gethin Jones yn gofyn iddo gadarnhau'r stori a gwireddu honiadau Gwilym Cowlyd. Gwadai yntau'r cwbl ar goedd, ond cydnabu i'r Dr Williams alw yn ei d欧 gan ofyn iddo fwrw golwg tros ei waith, ac iddo alw drachefn am ei awdl ymhen rhai dyddiau. Cyfaddefai, hefyd, iddo newid rhai llinellau, ac ambell air, ond gwadai mai ef oedd awdur yr awdl.

Roedd y gynulleidfa erbyn hynny'n gweiddi chair, chair, ac ambell un ar flaena'i draed yn bloeddio. Yn y man daeth awgrym sylweddol o'r dorf yn honni mai pwnc cyfreithiol oedd hwn, ac awgrymwyd fod Richard Davies A.S., Cadeirydd y cyfarfod, ynghyd 芒 Morgan Lloyd C. F., a thri arall, sef Estyn, Andreas o F么n, a Gweirydd ap Rhys yn cael eu penodi i wneud penderfyniad yngl欧n ag awduriaeth yr awdl. Cytunwyd, a buont wrthi am deirawr mewn Ysgoldy cyfagos yn holi tystion, gan drin a thrafod y mater.

Penderfynasant yn unfrydol mai'r Dr Williams oedd gwir awdur yr awdl, ond gallasai Gwilym Cowlyd fod wedi 'diwyllio' ambell linell ohoni. Ac felly, yn y Cyngerdd gyda'r nos, derbyniodd Dr Williams y gadair, ond ni chadeiriwyd mohono'n ffurfiol am bod hynny'n groes i'r drefn orseddol am mai ar 'awr anterth' yn unig y gwnaed hynny, ddydd golau am hanner dydd. Fel yna y dyfarnwyd cadair Eisteddfod Gadeiriol M么n Porthaethwy 1873, i'r Dr W. Morgan Williams (Fferyllfardd).

Daeth Tudno dan lach y North Wales Chronicle am iddo ymgymryd 芒'r gwaith beirniadu ac yntau wedi cael cipolwg ar awdl Fferyllfardd cyn cynnal yr Eisteddfod, a bod y cyfan yn awgrymu twyll a chamwedd. Bu gohebu cas yn y Wasg am fisoedd, er na chymerodd Gwilym Cowlyd na Fferyllfardd ran yn y ddadl, heblaw am un llythyr a anfonodd y naill at y llall, llythyr a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru, er mwyn cadarnhau mai Fferyllfardd oedd awdur yr awdl ar y testun 'Distawrwydd'. Dyma ddyfyniad o lythyr Gwilym Cowlyd dan bennawd sy'n gysylltiedig 芒'r testun!, sef 'Distawrwydd Cynhyrfus Y Borth', ymddangosodd y llythyr yn y Wasg yn nodi iddo fynd i Borthaethwy yn un pwrpas i dystio yr hyn sydd gennyf i'w ddweud:

'Dywedais y gwir yno'n drwyadl ... Y mae pob bardd yn dynghedawg i gadw cyfrinach, a'm dyletswydd i hyd ddiwrnod, ac hyd funud y dyfarniad, oedd gwneud yr hyn a wneuthum'

Yr oedd agwedd Fferyllfardd yn dra gwahanol am iddo dderbyn:

'... yr insult mwyaf melltigedig a gafodd unrhyw ymgeisydd erioed mewn Eisteddfod ... Ni buaswn yn gyrru fy awdl i'r gystadleuaeth oni bae fod gennyf feddwl uchel am loan Arfon a Thudno, am Alfardd nis gwyddwn ddim, ond gwn yn awr: 'Maddeuaf, meddai awen, / I hogyn bach gwan ei ben.'

Eisteddfod 1873 oedd hon - bu'n 糯yl fwy heddychlon yn ddiweddar. Eleni, 20 Mai, cynhaliwyd Eisteddfod M么n Porthaethwy 2006 - G诺yl Y Llys - yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy