Byddai'r pump ohona ni ddisgyblion Bl 8 yn cystadlu yng Ngwesty'r Copthorne yng Nghaerdydd yn erbyn ysgolion eraill oedd wedi dod i'r brig yn eu rhanbarthau.
Roedd ennill drwy Ogledd Cymru yn goblyn o fraint, ond hon oedd yr ornest fawr, y rownd genedlaethol.
Ar 么l cyrraedd y Copthorne, dyma gyfarfod y gwrthwynebwyr, sef Ysgol Uwchradd Fairwater, YsgoJ Gyfun Glanafan, Ysgol Syr Thomas Picton a ni, t卯m Ysgol David Hughes.
Roedd aelodau'r t卯mau yn gyfeillgar iawn efo'i gilydd, ond doedd dim modd gwadu'r tensiwn yn yr awyr, hyd yn oed rhwng yr athrawon!
Cyn pen dim, roedd hi'n amser i'r cwis ddechrau, a bol pawb ohonom yn dechrau crynu o nerfusrwydd.
Aeth y rowndiau cyntaf yn sydyn fel chwinciad chwannen.
Gan mai fi oedd y Capten, roeddwn wedi cael fy newis i wneud y rownd Mastermind ar y testun 'Oedrannau mewn cyfraith.'
Roedd y goleuadau yn diffodd yn union fel y fersiwn ar y teledu, a'r sbotolau ar bob un ymgeisydd o bob ysgol yn ej dro.
Wrth Iwc, fe Iwyddais i ateb pob cwestiwn yn iawn, a hynny heb lewygu!
Erbyn ail hanner y cwis, daeth i'r amlwg mai rhwng Ysgol Sir Thomas Picton a ninnau oedd y frwydr.
Wrth fynd i fewn i'r rownd derfynol, roedd y sg么r yn gyfartal. Rownd bwser oedd y rownd olaf yma, felly roedd yn rhaid bod yn chwim!
Roedd lIygaid meistr y cwis yn saethu o un t卯m i'r llall.
Ar 么l awr a hanner o gystadlu brwdfrydig, cyhoeddodd meistr y cwis bod un pwynt ynddi.
Crynai ein t卯m a'r t卯m arall yn ein cadeiriau!
"Yn fuddugol," meddai, "mae Ysgol David Hughes."
Saethodd ein t卯m i fyny gan dderbyn cymeradwyaeth. Roedd ein oriau o adolygu wedi bod werth yr holl ymdrech a mwy.
Cyrhaeddais adref yn meddwl am y teitl: 'Capten t卯m buddugol Cwis Heddlu Cymru 2009.' Ew, dyna deitl da!
Ar ran y t卯m, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Mrs Amlyn am aberthu ei hamser cinio am yr wythnosau diwethaf ac am fod yn gwmni yng Nghaerdydd!
gan Elis Roberts