Perchennog yr ebol dyflwydd o'r enw Trefaes Black Flyer
ydi Tom ac Ann Hughes, Rhydeilian, Llanfairpwll, ac fe
ddylid enwi hefyd Alun Hughes y mab, gan mai ef sydd yn
paratoi ac arddangos yr ebol.
Mae'r ebol dyflwydd Adran D (Cob Cymreig) yma wedi ennill gwobrau cyntaf yn Sioe
Bridwyr Merlod a Chobiau Cymreig, Llanbedr Pont Steffan a
Glan Usk - y ddwy Sioe bwysicaf o'u bath yng Nghymru, a
hynny sylwer yn nghadarnleoedd y Merlod a Chobiau
Cymreig.
Yn Sioeau Merlod a Chobiau Ynys M么n a Chlwyd roedd
yn Bencampwr y Stoc Ifanc Adran D. Eto ym Mhrimin M么n
daeth Trefaes Black Flyer yn gyntaf yn ei ddosbarth ac yn
Bencampwr y Stoc Ifanc.
Dyma record anhygoel a chlod mawr i Alun Hughes chwim ei droed am ei arddangos mor gelfydd yn y sioeau yma, ac i Tom am ei baratoi mor dda.
Perchnogion yr ail geffyl ydi Robert a Llinos Davies,
Hendre, Llanffinan, ac enw eu stalwyn Adran D ydi
Gwenllian Deio sydd yn wyth mlwydd oed.
Tom ac Alun Hughes fu'n gyfrifol am baratoi'r stalwyn arbennig yma ar gyfer Sioeau'r haf, ac fe gawsant lwyddiant rhyfeddol. Yn Sioe Fawr Llanbedr Pont Steffan daeth Gwenllian Deio yn gyntaf
yn ei ddosbarth ac yn Bencampwr y Sioe - llwyddiant anhygoel
i stalwyn o Ogledd Cymru.
Yn yr un modd daeth yn gyntaf yn
ei ddosbarth yn Sioe Feirch Glan Usk ac yn Bencampwr y Sioe.
Yn Sioe Frenhinol Cymru daeth yn gyntaf yn ei ddosbarth ac fe
gafodd yr ail wobr fel y March Gorau yn y Sioe. Mae ennill yn y Sioe Frenhinol Gymreig yn rhoi statws byd eang i'r stalwyn
yma.
Ym Mhrimin M么n daeth yn gyntaf yn ei ddosbarth ac yn
Bencampwr yr adran.
Mae'r llwyddiannau hyn bron yn
anhygoel i farch o Ogledd Cymru.
Llongyfarchiadau i Robert a Llinos y perchnogion, a hwy
yw'r cyntaf i ddatgan eu gwerthfawrogiad i Tom ac Alun
Hughes am eu paratoadau gofalus ac i Alun am arddangos y
stalwyn ar ei orau.
|