"Rhoswch chi mi fyddai'n 么l o'r lle a'r lle erbyn hynny a fydd dim rhaid i mi adael am
gyfarfod y peth a'r peth am ddwy awr! Hanner awr wedi deuddeg amdani 'te!"Tebyg i hynna oedd sgwrs y diwyd Eifion Jones ar y ff么n. Roedd ein cyfarfod ni i fod i ddigwydd rai wythnosau'n 么l ond roedd o a Catherine wedi cael cyfle i daro draw eto i'r Almaen at Geraint a'i deulu ac felly bu'n rhaid aros!
Ym Mhentraeth, wrth yrru o'r Borth, troi i'r dde wrth Dafarn y Panton. Ymlaen ar y ffordd i Lansadwrn a throi i'r chwith i lawr ffordd y Traeth. Gyrru drwy'r coed ac yn ddisymwth mae aber odidog y Traeth Coch yn agor o'ch blaen chi. Y llecyn yma yn y newyddion y dyddiau yma. Pam tybed? Wel yma, am y tro cyntaf yng Nghymru a dim ond am y pedwerydd tro erioed yng ngwledydd Prydain y daeth y cr毛yr gwyrdd atom. Tyrrodd adarwyr o bob cyfeiriad i gael cip ar yr ymwelydd bach prin, a chwythwyd gan y corwyntoedd o America i ardal Papur Menai!
Heibio i fynedfa Plas Tangraig a dal i'r dde a chyrraedd t欧 fferm Bryn Hyrddin gydag hen adeilad carreg cadarn y felin y tu 么l iddo. Bellach mae Melin Bryn Hyrddin (neu Hyrddyn - y pysgodyn mullet yn Saesneg) yn gartref i Eifion a Catherine ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
Daeth rhieni Eifion i Fryn Hyrddin pan oedd o'n saith oed. Dyma fferm y plas homefarm stad Tanygraig. Eifion oedd y canol o dri o blant y teulu. Anfonwn ein cofion cynnes at Menna, y chwaer h欧n ac hefyd yn arbennig at Ceri, sydd wedi bod a'i hiechyd yn fregus yn ddiweddar.
O'r Ysgol Gynradd leol aeth Eifion, ym 1951 i Ysgo1 Ramadeg Biwmares, ac yna dod adre i ffermio efo'i dad. Mwynhau ffarmio'n fawr, y godro a'r cwbl(!) ond Eifion hefyd yn un sy'n mwynhau'r 'pethe'. Aelod ffyddlon o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanddona drwy ei ieuenctid, yn Gadeirydd ac yn y man yn Arweinydd y Clwb. Bu wedyn yn Gadeirydd Sirol y mudiad.
Mae i'r Eisteddfod Genedlaethol le pwysig ym mywyd Eifion a Catherine. Stiwardiai'n gyson pan oedd o'n iau. Gadael y fferm am wythnos, cysgu mewn ysgolion ac ati ac yna, yn 'Steddfod y Drenewydd yn 1965 cyfarfu 芒'r Catherine arbennig o'r T欧 Hen Isa, Llanerch-y-medd, nyrs yn Llanelwy, a'r ieuengaf o wyth o blant. Mae'r gweddill fel dwedwn ni yn hanes! Am y tair blynedd cyn eu priodas ym 1969, Catherine yn nyrsio yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor. Priodi a dod i fyw i'r Felin gerllaw, a oedd erbyn hynny wedi ei throi'n d欧 cysurus. Yn y man daeth Geraint ac yna Gwenan i lenwi'r aelwyd. Mae'r Dr Geraint r诺an, yn Astronomydd, ac wedi sbeliau yma ac acw dros y byd - Pasedina, Califfornia gyda'r enwog N.A.S.A yn un ohonynt, yn byw yn yr Almaen efo'i deulu. Mae Non, Nia a Nela yn denu taid a nain yno atynt bob tro y daw cyfle.
Mae Gwenan - Mrs Evans r诺an yn byw yn llawer nes, ac yn athrawes werthfawr yn Ysgol Llanfairpwllgwyngyll a wir i chi mi gefais gyfarfod 芒 Shwna (Siwnamis yn llawn) fach heddiw.
Bu Robert Jones, tad Eifion yn Glerc Cyngor Plwyf Pentraeth am 18 mlynedd cyn ei farw ym 1971. Perswadiwyd Eifion i gymryd y gwaith ac eleni mae yntau'n cwblhau 33 mlynedd fel Clerc! Cyfraniad difesur i fywyd yr ardal. Codwyd ef yn flaenor ifanc yn Nazareth, y Presbyteriaid ac ers i'r addoldy gau ym 1998, ac Ebeneser (A) hefyd ym 1999 mae'n ffyddlon ym Moreia'r Bedyddwyr. Beth bynnag sy'n digwydd ym Mhentraeth teimla Eifion a Catherine ei bod hi'n fraint ac yn ddyletswydd helpu. Mae'n Bwyllgorwr llawen. Bu'r ymdrechion codi arian at achosion lleol a gwyliau - Eisteddfod yr Urdd 2004 oedd y ddiweddaraf, yn elwa'n fawr ar gefnogaeth y ddau yma a'u hadnabyddiaeth o'r ardal. Rhydd Eifion ei egni i gyfrannu i Papur Menai ac mae o ar y funud yn Gadeirydd Canolfan Cymuned y Pentre. Heb Catherine allai o ddim mwynhau ei aelodaeth o G么r y Traeth, wrth ei fodd yma hefyd. Bu'n unawdydd, cystadleuydd peryglus fel bariton pan yn iau. Gallwn fynd ymlaen ond fel arfer blasu gawn ni yma. Diolch fil am y croeso ar aelwyd cymwynaswyr gwir i'w milltir sgw芒r ac ymhellach o lawer. Y llun? Y ddau wrth bont a Menai? Na - San Ffransisco ydi fama!