Fe gafodd Cymdeithas Chwaraeon y pentref grant sylweddol gan Sportlot i ddarparu caeau newydd, ond doedd dim arian yn y gronfa i adeiladu ystafelloedd newid. O ganlyniad i hynny dyw'r Clwb Hyn na'r Clwb Iau wedi medru gwneud defnydd llawn o'r caeau.
Ond diolch i gyngor bro y pentref, a chymhorthdal o £30,000 gan y Cyngor Sir, yn ogystal â rhodd o £2,000 gan y Clwb Pêl-droed Iau, y gobaith ydi y bydd ystafelloedd newid ar y safle erbyn y tymor newydd. Fe fydd y Clwb Pêl-droed Hŷn hefyd yn buddsoddi'n sylweddol yn y fenter er mwyn cydymffurfio â chanllawiau'r Cynghrair.
Wrth dderbyn y siec o £10,000 yn noson wobrwyo blynyddol y Clwb Pêl-droed Iau, fe ddywedodd yr is-Gadeirydd Dennis Williams fod arian a chefnogaeth y cyngor Bro wedi bod yn allweddol, ac er bod angen casglu peth arian eto dros yr wythnosau a'r misoedd nesa, roedd yn hyderus y byddai pobl ifanc y pentref yn gallu manteisio ar yr adnoddau gwych ym Maes Eilian cyn hir.
Mae Cymdeithas Chwaraeon Llanfairpwll, fydd yn gyfrifol am reoli'r meysydd chwarae yn chwilio am aelodau newydd ac fe fydd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn cael ei gynnal cyn hir. Os am ymaelodi neu os am gael rhagor o fanylion am weithgareddau'r Gymdeithas cysylltwch â Garffild Lloyd Lewis, yr ysgrifennydd, ym Maes Tegfryn, Lon Graig, neu drwy ebost ar egfryn@hotmail.com.
|