Cau Pont y Borth i un cyfeiriad am rai misoedd, er mwyn trin y fframwaith a rhoi cot iawn o baent iddi. Ac mae barn y trigolion yn amrywio. Ar y cyfan, llawenhau bod y gwaith i gael ei wneud, gan boeni ar yr un pryd beth fydd yr effaith ar drafnidiaeth, ar fusnesau ar ddeuben y bont, ac ar dwristiaeth. Mae'n ymddangos bod y system reoli yn gweithio'n well na goleuadau, sydd yn y gorffennol wedi arwain at resi hir o gerbydau ar y ddwy ochr. I'ch hatgoffa, cewch groesi o F么n i Arfon rhwng 6 y bore a 2 y prynhawn, ac o Arfon i F么n weddill y dydd. Tybed faint sydd wedi anghofio'r patrwm hyd yn hyn - a gorfod rowndio? Aethoch chi'r ffordd iawn ar 1 Ebrill? Bydd yn braf - gobeithio - gweld campwaith Telford wedi ei hadfer i'w hen ogoniant. Ond tybed am ba hyd y bydd y ddwy bont yn gyswllt digonol? Beth fydd yr ateb nesaf - trydydd pont, neu ehangu Pont Britannia - neu dwnel? Fe fydd angen rhywbeth yn gynt nag y meddyliwn.
|