Dyma logo Masnach Deg a chyn bo hir gobeithio mi fydd i'w weld mewn mwy a mwy o siopau a busnesau ym Mhorthaethwy yn ogystal ag yn yr ysgol.
Mae Ysgol David Hughes yn gobeithio caiff y dre y statws yn y dyfodol agos ac wedi dechrau rhoi sylw i'r mater hefyd.
Nid elusen yw Masnach Deg. Yn hytrach mae'n ffordd o hyrwyddo nwyddau sy'n galluogi pobl yn y Trydydd Byd i gael t芒l teg am eu cynnyrch.
Erbyn hyn gallwch brynu mwy na jest coffi, te a bananas Masnach Deg. Mae siocled, siwgr, dillad, peli ac anrhegion o bob math yn cael eu gwerthu gyda'r label Masnach Deg.
Yn ddiweddar daeth criw bychan o ddisgyblion o'r Chweched dosbarth ynghyd i ddechrau ar y dasg o hyrwyddo Masnach Deg. Ein nod cyntaf yn yr ysgol yw annog yr athrawon i gyd i yfed te a choffi Masnach Deg.
Felly beth amdani? Y tro nesaf y byddwch yn prynu te neu goffi, chwiliwch am y logo - mae digon o ddewis ar gael!
|