大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Lucy Zalot o Fiwmares Pobol y Fro
23 Chwefror 2004
Cyfle o fis i fis i adnabod rhai o gymeriadau diddorol y cylch gyda Edward Morus Jones. Y mis yma mae Edward yng nghwmni Lucy Zalot o Fiwmares.
Does na fawr o dai yn unlle sy'n agosach at lan y m么r na'r Old Custom House. Yma ym mhen gorllewinol y dre, led priffordd yn unig o dd诺r y Fenai, mae cartref Lucy Zalot, plentyn hynaf Richard a Helen a chanddi un brawd iau, Jon. Un ar hugain oed yw Lucy ac ar ei blwyddyn gyntaf fel athrawes.

Yn Llandegfan y trigai'r teulu pan anwyd Lucy a Jon, ac i Ysgol Gynradd Llandegfan yr aeth y ddau. (Mae eu mam, Mrs Helen Zalot, yn athrawes werthfawr yno ers dros chwarter canrif bellach. Dim rhyfedd i'r ferch ddilyn yn 么l ei thraed wrth ddewis gyrfa yn adysgu plant hyd at un ar ddeg oed.) O Landegfan aeth Lucy a Jon, sy'n awr yn bedair ar ddeg oed i Ysgol Gyfun David Hughes, cyn gadael am y Coleg. Yno dewisodd y Gymraeg a Daearyddiaeth fel ei phrif bynciau o fewn maes Addysg.

Bu gan Lucy ddiddordeb yn y m么r erioed. Pan nad oedd hi fawr mwy na phump neu chwech oed, dywedodd ffrind i'r teulu ac un o ffyddloniaid yr R.N.L.I., Mr Harold Jones, wrthi y byddai hi yn dod yn un o leiafrif bach, pwysig iawn pan fyddai'n h欧n. Wrth dyfu i fyny roedd Lucy'n aml o gwmpas Gorsaf y Bad Achub ym Miwmares, yn adnabod y criw yn iawn, gan fod dad yn un ohonynt. Gynted fyth ag y cafodd hi, yn 17 oed, yr hawl i wneud hynny, ymunodd 芒 nhw, a dechrau hyfforddi i fod yn aelod llawn o'r t卯m achub.

Roedd hynny dros bedair blynedd yn 么l. Mae Lucy erbyn heddiw wedi gwireddu ei breuddwyd hi a Harold Jones. Mae'n un o'r ugain o wirfoddolwyr dewr hynny sy'n barod i adael popeth, a mynd allan i'r m么r ar Fad Achub y Blue Peter II pan ddaw galwad. Mae o'n fyd sy'n golygu ymroddiad llwyr, parhau i ymarfer yn gyson fel t卯m am oriau, ddwy noson yr wythnos a mynychu cyrsiau dwys.

Meddai Lucy, "Pan ma'r blipar yn galw ma'n rhaid mynd!" Faint o weithiau y bu hi allan tybed? Rydan ni'n s么n am tua wyth deg o weithiau yn barod. Bydd llywiwr (helmsman) a dau aelod arall ar y cwch bob amser - dim ond tri!

Mae Lucy a'r criw yn gyfrifol am warchod y Fenai ar ei hyd, a'r m么r oddi ar Ynys Seiriol - i gyfeiriad Badau Achub Moelfre, Llandudno a Chonwy.

Ceir tuag wyth deg galwad allan bob blwyddyn, yn amrywio o achub dau Chinead yn chwilio am bysgod cregyn ar greigiau'r Borth yn gynnar un bore Sul - i ymgeleddu buwch druan, wedi disgyn o uchder i lawr ar greigiau Pen M么n. Helpwyd dyn anghyfrifol a lusgodd bump o blant bach y tu 么l i'w jetski a'u gadael ar Ynys Seiriol a bu Lucy'n barod yn dyst i'r sefyllfaoedd hollol drist pan fydd trueiniaid yn gwneud eu naid olaf oddi ar un o Bontydd Menai.

Dywed Lucy ei bod hi'n cael buzz - gwefr, bob tro y daw galwad. Teimla bod hyn yn rhywbeth mae hi 'i fod' i'w wneud. Dyma neges, a gwedd茂au pawb ohonom ni. Cymrwch ofal mawr ... a diolch Lucy.

Edward Morus Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy