大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Ras y dyn haearn Dyddiadur Dyn Haearn
Medi 2005
Sherborne, Dorset - Dydd Sul, 21/08/05.
Doedd dim angen cloc larwm i ddeffro am 4.00 a.m. bore heddiw a finnau prin wedi cysgu.
Heddiw ydi'r diwrnod mawr 2.4 milltir o nofio, 112 o filltiroedd o feicio ac wedyn Marathon llawn (26.2 milltir) er mwyn cwblhau cwrs yr Ironman.

Eleni oedd y tro cyntaf ers blynyddoedd i ras swyddogol gael ei chynnal ym Mhrydain a roedd bron i 1,500 o athletwyr o dros 30 o wledydd yn cymryd rhan, gan gynnwys y goreuon proffesiynol.

Roeddem i fod i ddechrau nofio ddwywaith rownd llyn Castell Sherborne am 6.00 a.m., ond oherwydd niwl y bore bu rhaid atal hynny tan tua 8.00 a.m. Roedd pawb felly yn sefyllian yn nerfus ar ymyl y llyn yn eu wetsuits yn disgwyl cael cychwyn.

Pan ddechreuodd y 'ras' roedd y d诺r gwyrdd yn gynnwrf gwyllt fel ffair piranha wrth i bawb frwydro dros eu gilydd yn llythrennol. Mae 1,500 yn lot fawr o nofwyr a pawb dros ei hun oedd hi, efo lot o gicio a nofio dyrnu am y filltir gyntaf. Ar 么l hynny roedd posib nofio yn fwy rhydd a canolbwyntio ar dechneg ond roeddwn yn dal yn falch o ddod allan o glai a mawn y llyn chw茂aid ar 么l 1 awr a 6 munud.

Newid wedyn yn ddigon hamddenol wrth baratoi am ddiwrnod ar y beic. Fy marn i oedd bod yn gyfforddus yn holl bwysig, felly mi gymerais fy amser i newid a llyncu brechdan cyw iar cyn gorfod dibynnu am fwyd egni o ymyl y ffordd.

Roedd y cwrs beic yn hir ac i fyny ac i lawr. Dim byd tebyg i fynyddoedd Eryri, ond lot fawr o elltydd a dim llawer o gyfle i sefydlu rhythm. Roedd gennyf ofn mynd yn rhy galed a thalu am hynny yn hwyrach, ond yng nghanol y cystadlu ac emosiwn y dydd roedd hi'n anodd dal yn 么l. Mae ardal Dorset yn hardd iawn, ond doeddwn i ddim yno i fwynhau golygfeydd. Braf oedd cefnogaeth trigolion pob pentref yn gweiddi ac yn annog. Tydw i erioed wedi mwynhau cymaint o gefnogaeth o'r blaen ac roedd yn hwb mawr yng nghanol y dringo. Roedd y coesau wedi blino ar 么l 80 milltir a s锚t y beic yn ddigyfaddawd. Ar 么l 112 milltir roeddwn yn falch o gael dod oddi ar y beic mewn 6 awr 32. Yn 么l rheolau Triathlon, chewch chi ddim beicio o fewn 10m i gystadleuydd arall, rhag ofn i chi gael mantais slipstream. Roeddwn yn gwybod fod Dafydd Williams (partner ymarfer a ffrind agos) allan ar y cwrs ac ar y blaen ar 么l y nofio, ond ddim yn si诺r faint o wahaniaeth oedd rhyngom. Wrth ymarfer roeddem wedi s么n am pa mor braf fyddai cael rhedeg ochr yn ochr, ond yn gwybod hefyd fod hynny yn anhebygol iawn.

Wrth gyrraedd yr orsaf newid rhwng y beic a'r rhedeg, hwb mawr oedd clywed y sylwebydd yn dweud wrthyf fod un arall o athletwyr Clwb Triathlon Padarn (Llanberis) yn y stafell newid. Pan redais i mewn i newid gwelais Dafydd o'm blaen. Ar 么l bron i 8 awr o ymdrech roeddem o fewn 30 eiliad i'n gilydd! Cyd-ddigwyddiad yntau ffawd? 'Dwn i ddim ond roedd y ddau ohonom yn falch o gwmni'r llall.

Dim ond Marathon ar 么l felly ac roedd y coesau'n teimlo'n syndod o dda. Er hynny dyna gytuno i redeg yn geidwadol a cheisio cynnal amser cyson i bob milltir. Roedd cael cwmni wrth redeg yn help mawr wrth i ni annog neu ffrwyno ein gilydd yn 么l yr angen a phasio llu o athletwyr eraill yn dioddef ac yn unig efo milltiroedd i fynd.

Cwrs yno ac yn 么l oedd y rhedeg ac felly roedd hi'n braf iawn gweld cyfeillion o gyd gystadleuwyr yn pasio yn y cyfeiriad arall. Cafodd Dafydd a minnau hwb mawr o wybod fod Robin, Gareth, Mike, Barry a Berwyn allan ar y cwrs a ddim yn edrych yn rhy ddrwg.

Mi basiodd y 26 milltir reit sydyn ac fe redom i fyny yr allt fawr ar 么l 20 milltir gan wybod fod y gwaethaf drosodd ac fod siawns i dorri'r 12 awr. O ystyried mai gorffen oedd y nod cyntaf ac wedyn y byddai 13 awr wedi bod yn dderbynio1 iawn, roedd unrhyw awgrym o 12 awr yn galonogol iawn. Ar 么l ymdrech ychwanego1 dros y 3 milltir olaf dyma'r ddau ohonom yn croesi'r llinell ochr yn ochr mewn 11 awr 57 munud, 46 eiliad ar 么l rhedeg marathon mewn 4 awr.

Sut deimlad oedd gorffen felly? Wel, roedd o'n rhyddhad mawr ar 么l bron i 12 mis o ymarfer a 12 awr o ymdrechu. Roedd hi'n braf hefyd gweld wynebau cyfarwydd ffrindiau a theulu ym mwrlwm y llinell orffen. Roeddwn wedi disgwyl teimlo yn waeth ond dwi'n meddwl fod emosiwn yr achlysur wedi nghario i ymlaen ac fod styfnigrwydd dyfalbarhad wedi cilio poen swigod a blinder yr ymdrech.

Be nesa felly? Wel, y cam cyntaf ydi hel pres nawdd a chael diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u nawdd. Dwi'n dioddef o asthma a phenderfynodd criw ohonom oedd yn cystadlu i godi arian at bedwar elusen - Asthma, Calon, Cancr a Th欧 Gobaith. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein noddi.

75 person lleol yn cystadlu.

Huw Percy, Llandegfan
Dafydd Williams, Llanberis (yn wreiddiol o Frynsiencyn)
Gareth Roberts, Porthaethwy
Robin Phillips, Llangefni
Berwyn Jones, Llanrug
Mike Pepper, Caernarfon
Barry Williams, Caergybi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy