Dros gyfnod o chwe mis mae'r cynllun o adnewyddu wedi golygu buddsoddiad o bron i 拢200,000 gan Gyngor Sir Ynys M么n ynghyd 芒 chymorth ariannol grantiau.
Mae hir ymaros wedi bod am i'r gwaith gael ei wneud gan bod dirywiad sylweddol wedi digwydd i'r adeilad dros y blynyddoedd.
Dywedodd John Rees Thomas, Pennaeth Adran Addysg Gydol
Oes a Gwybodaeth y Cyngor Sir, "Mae'n bleser gweld y cynllun
adnewyddiad hwn wedi ei gyflawni. " Roedd y cynllun yn cynnwys rhoi to, ffenestri a drysau newydd a hefyd gwneud i'r holl adeilad
edrych yn addas gerllaw hen Ysgol David Hughes a'r Castell yn
ogystal 芒 bod yn ymarferol. "Mae yma hefyd gyfarpar a dodrefn
newydd ynghyd ag ystafell ddysgu fodern bwrpasol ar gyfer y
cyfrifiaduron. "Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi'r grantiau a gafwyd
tuag at y gwaith. "Hefyd dymunaf ddiolch i'r defnyddwyr am eu
hamynedd tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen ond fel y gwelir mae
y canlyniad yn brawf ei bod yn werth yr aros a mae hwn yn achlysur
arbennig."
Talodd deyrnged hefyd i Sheila Jones y Llyfrgellydd a'i staff am
eu dygnwch wrth bwyso a gwasgu mor ddiwyd am y cynllun adnewyddu ac am gael y Llyfrgell yn 么1 i'w lawn effeithiolrwydd ar
么1 cwblhau y gwaith a oedd yn dyst i'w llafur.
Dadorchuddiwyd y plac ar y mur i gofnodi yr achlysur gan y
Cynghorydd R. L. Owen, yr aelod lleol ar Gyngor Sir Ynys M么n, a
diolchodd yn yr un modd am y cynllun adnewyddu hanfodol oedd wedi ei gyflawni ac i bawb a oedd wedi gwneud hynny yn bosib.
Dymunodd yn dda i'r staff a holl ddefnyddwyr y Llyfrgell gan
ddatgan bod dyfodol disglair i'r gwasanaeth am lawer blwyddyn i
ddod.
|