Dyna fu'n rhaid i'r awdur R. Cyril Hughes ei wneud wrth fynd i'r afael a'i nofel ddiweddaraf, ond roedd hefyd angen iddo droi'r cloc yn 么l bron i chwech chanrif er mwyn cael naws a chefndir y stori'n iawn. Mae Cyril yn byw yn Llanfairpwll bellach, ond bu'n byw yn Neuadd Lwyd, Penmynydd am flynyddoedd lawer, a bydd yn adnabyddus i ddarllenwyr Papur Menai fel un o gyn olygyddion y papur. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn hanes, ac roedd hynny'n gaffaeliad amlwg wrth iddo fynd ati i saernio ei nofelau yn y gorffennol. Ef yw awdur y nofelau Catrin a Ferain, Dinas Dihenydd a Chastell Cyfaddawd. Mae Maes Bosworth yn dilyn trywydd hanesyddol eto, ond mae yma ddatblygiad i'r awdur gan mai nofel i blant Ysgol Uwchradd yw hon. Gofiwch chi, mae Cyril yn prysuro i ychwanegu na ddylai hynny rwystro unrhyw un o ddarllenwyr Papur Menai - beth bynnag fo'u hoedran - rhag mynd ati i ddarllen y llyfr! Mae'r stori'n olrhain hanes Rhys, bachgen pymtheg oed sy'n byw a gweithio ym Mhlas Penmynydd, wrth iddo ffarwelio a'i gartref a theithio i faes Bosworth ym 1485. "Bydd yn ddiddorol i bobl ifanc M么n gael cymharu eu bywydau nhw heddiw gyda bywyd bachgen o'r cyfnod dan sylw", meddai Cyril. "Doedd Rhys - y prif gymeriad - erioed wedi gadael yr Ynys cyn iddo gychwyn ar y siwrne helbulus yma, a dwi'n si诺r bydd ei fywyd pob dydd o yn y Plas yn ddiarth iawn o'i gymharu a bywydau pobl ifanc heddiw. Wedi dweud hynny, mae yna rai pethau sy'n oesol yntoes? Mae ofn a chyffro a rhyfeddod yn bethau y gall pawb eu hadnabod, ym mha bynnag oes y maen nhw'n byw". I ddathlu cyhoeddi ei nofel gyntaf ers iddo ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ym 1984, aeth Cyril 芒 chopi o Maes Bosworth draw i Blas Penmynydd, gan mai yn y fan honno y mae'r stori yn dechrau. Rwy'n si诺r y gwnaiff darllenwyr Papur Menai fwynhau llyfr sydd 芒 chysylltiad mor agos 芒'r ardal. Mae'r nofel ar gael o siopau llyfrau Cymraeg o ddiwedd Mehefin am 拢4.99.
|