Roedd dros 150 o aelodau y 5 band presennol a sawl cyn-aelod balch yn rhan o'r prosesiwn, a'u hoedrannau o 7 oed i'w 70au, pawb yn eu topiau
coch - golygfa ryfeddol Yn dilyn yr orymdaith bu cyngerdd ar y sgw芒r, gyda thorf fawr yn gwylio a'r haul yn gwenu.
Fred Evans fy'n allweddol wrth ailgychwyn y seindorf 25 mlynedd yn 么l ac mae o'n dal yn hynod o weithgar efo nhw. Y pump seindorf yw: y band Ieuengaf, y band Canolradd, y band Iau, y band Hyn, a band newydd o oedolion oedd am ddechrau neu ailafael mewn dysgu offeryn pres - y Last of the Summer Wind, fel y'u hadnabyddir!
Pen blwydd hapus iawn i'r Seindorf, a llongyfarchiadau i Fred, Gwyn, Paul a sawl un arall am eu gwaith caled a diflino gyda'r holl offerynwyr.
|