Hawdd!? Ha! 'Sa 'i 'di bod yn haws sblitio'r atom hefo llwy bren tra'n sefyll ar un goes.
Bob blwyddyn, talu talp o 'mhres pocad i'r dieithryn am lond llaw o beli pren yn y ffug obaith dwl fod gen i jans o'r howli grêl hwnnw - y coconyt. 'Sa picio i siop i brynu Bownti bar wedi bod lot haws a rhatach.
Fyddai'n deud bob blwyddyn, "tydi'r ffair ddim fel oedd o 'stalwm", a swnio fel hen gant yn ei ddeud, ond mae o'n wir. Mae o'n iawn os 'dach chi'n licio ... byrgyr neu dri, ryw soffd tois pinc a glas anfarth, cael deud eich ffortiwn gan wraig sy' di gneud 'run peth i Tom O'Connor a Ken Goodwin, set o lestri 'slaitli chipd' pan gawsant godwm oddi ar ryw lori a byrgyr arall ar y ffordd adra.
Lle ath y bocsio, y sdripars a'r anifeiliaid 'fo tri pen a pum coes? A be am Ratwoman? Hi oedd uchafbwynt yr holl ffair i mi a'm cyfoedion glafoeriog ... chwara teg, ifanc oeddan ni. Roedd y cyfle i weld dynas 'hanner noeth' mewn 'cell' hefo haid o Iygod mawr mileinig a rheibus yn ein cynnal am wsnosa cyn y diwrnod mawr ei hun.
Er y lIuniau risgei tu allan i hudo ni lanciau llawn tesdosderon i fentro fewn i ffasiwn le, roedd y realiti yn gwbl wahanol. Dynas pasd hyr praim swn i'n deud, oedd fel arfer yn gneud ei gwinadd neu gweu rwbath, wedi ei gwisgo, ia gwisgo! (pres nôl plis!) mewn cyrtans net a bicini botyms. A'r lIygod ffyrnig? ... 'sa cath fach a pelan o wlân 'di bod yn fwy bygythiol.
Oeddan ni rhy ifanc i weld y sdripars, pwy bynnag oeddan nhw ... 'sa nhw di gallu bod yn aeloda o Ferched y Wawr Rhoscefnhir, ond toeddan ni ddim callach. Ofer oedd pob un o'r hymdrechion i sbecian drwy unrhyw dwll yn y dent, oedd y lle fel Fort Knox canfas wedi cael ei 'hyrmeticli sîlio'. Dim gobaith o weld botwm crys nefar maind botwm bol.
O wel lawr i'r waltzers 'lly! Hongian o gwmpas fanno yn llygad rythu'r 'talent' oedd o gwmpas a rhyfeddu at y 'gweithwyr' a'u celf corfforol soffisticêtid (Mam, Dad, Love, Hate ac ambell air dau sill) a'u dawn o ddangos eu hunain i'r 'talent' lleol drwy lwyddo i aros ar eu traed wrth hel pres a throelli seti'r merched dan sylw yn gynt ac yn gynt. Ma' raid bo' nhw 'di bod i Coleg i ddysgu ffasiwn grefft.
"Hold tait hold tait lîn tw ddy rait", oedd y gri ar y reid motobeics. "Sgrîm uff iw want tw go ffasdyr" - a mi oeddan ni, gan drïo edrych mwy cwl i'r 'talent' yno drwy mond dal gafael 'fo un llaw er gwaetha'r sentriffiwgl fforsys oedd am daflu ni ffwrdd. Smalio ein bod yn rîli mwynhau'r profiad er gwaetha'r Myddyr of ôl Pendros, a dyheu i'r blwmin peth sdopio i ni gael twtio'n mylets.
Weithia 'sa rhywun digon lwcus i guro 'sgodyn aur, ar ôl ymdrechu'n ddiflino i daflu dartia neu saethu/bachu chwîd plastic melyn. Pam? Oedd pawb yn gwbod 'sa'r cradur anffodus yn fflotio â'i fol fyny erbyn amser te drennydd.
A be am daflu hŵps i ennill un o'r amryw lyfli praisis? Sgersli bilif! (chwedl Mr I. Y. Tryc) 'Sa'i'n haws gweu riwbob. Rwbath arall i'n gwahanu o'n ceiniogau prin. Ag eto mi fydda 'na ambell un powld yn dod o 'na yn fuddugoliaethus - llond ei freichia o'r hylif egsotic hwnnw Pomein - 'na ni lysh Dolig 'di sortio iddo fynta debyg.
Naw o'r gloch oedd y 'wotyrsied' o fath, 'fo prisia'n mynd fyny am ryw reswm a'r hogia hÅ·n yn ymddangos o'r cysgodion, i bigo ffeits 'fo'i gilydd a rhoi lyfbaits i'r rhiannedd lleol.
Y gosa 'sa ni'n dod at frathu rwbath 'sa toffi apl neu lond llaw o roc nymbar êt. Oedd hi'n amsar mynd eniwe i osgoi'r 'Helwyr clustiau' o Gaergybi.
Cocosydd