Mewn cystadleuaeth gref ag unarddeg o ddram芒u wedi'u cyflwyno, "Dyma Deulu Dedwydd" o waith Branwen ddaeth i'r brig yn 么l y beirniad Dafydd Llewelyn. Perfformiwyd y ddrama yn Theatr Fach, Llangefni yn union wedi seremoni cyflwyno'r tlws. Mynychodd Branwen Ysgol Gynradd Llandegfan ac yna Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Bu'n aelod o Ysgol Glanaethwy ac yn Theatr Ieuenctid Cymru am ddwy flynedd. Aeth yn ei blaen i astudio cwrs actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Ar 么l graddio bu'n gweithio fel actores, y rhan fwyaf adnabyddus oedd Elen yn nwy gyfres o "Extra" i Ffilmiau'r Nant. Wedi mentro i facpacio o amgylch Awstralia ar ei phen ei hun penderfynodd ddilyn cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Bangor, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu i'r theatr.
Tra yn y brifysgol derbyniodd Branwen fwrsari gan Sgript Cymru i ysgrifennu drama wedi iddi gymryd rhan yn y ei prosiect "Y Weiren Fyw" a sefydlwyd i hybu ysgrifenwyr ifanc newydd. Cyd-ysgrifennodd hefyd y ddrama "Dominos" i'r Theatr Genedlaethol y llynedd, ac y mae hi newydd gwblhau drama newydd i Gwmni Drama Bro Llandegfan fydd yn cael ei pherfformio'r flwyddyn nesaf.
Yn ogystal ag ysgrifennu, y mae Branwen yn gweithio yn Adran Lenyddol Cwmni Theatr Cyfoes ac ysgrifennu Newydd, cwmni a sefydlwyd fis yn 么l yn dilyn uniad Sgript Cymru a Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.
Wedi'r seremon茂au nos Sadwrn 28ain Ebrill diolchodd Branwen i'w rhieni, Bill a Ruth Davies am eu cefnogaeth ac hefyd i'r rheiny sydd wedi'i chynghori a'i hannog gyda'i hysgrifennu, gan gynnwys William R. Lewis, Elin Bowman, Meic Povey, Aled Jones Willams a Jamie Garven.
|