Ers y cyfarfod cyffredinol cyntaf yn 么l yn 2006, pan dderbyniwyd yr her o wahodd Eisteddfod M么n 2008, mi fu 'na lawer o brysurdeb yn Llandegfan a'r ardal.Ffurfiwyd nifer o is-bwyllgorau a bu pob un wrthi'n ddyfal naill ai'n llunio Rhestr Testunau i'r cystadleuwyr, yn codi arian neu'n trefnu digwyddiadau ac ati. Rhwng pawb, bu cryn drigain o bobl yn ymwneud 芒 threfnu'r digwyddiad yn barod. Go dda ynte?
Bu'r Cyhoeddi - ar lawnt werdd tref Biwmares fis Mai y llynedd - yn llwyddiant mawr. Cydweithiodd Gorsedd M么n yn gampus i ddwyn lliw a threfnu i'r achlysur. Y diwrnod hwnnw, dechreuwyd gwerthu'r Rhestri Testunau, a bellach dosbarthwyd cannoedd ohonynt i bob cwr o Gymru.
Rwan 'ta, lle mae pethau arni hi erbyn hyn tybed?
Codwyd yn barod y rhan fwyaf o'r 拢35 mil sy'n angenrheidiol. Sioc i chi? Wel, mae'n wir. Diolch o galon i chi bawb a'n noddodd ni ym mhob ffordd ac a'n cynorthwyodd ni i gael gwobrau da i'r enillwyr.
Rydym yn ddyledus iawn i'r nifer sylweddol o ffrindiau da a Llywyddion Anrhydeddus sydd eisoes wedi anfon rhoddion hael. Ond eto, os oes 'na unrhyw un ohonoch chi - neu ffrindiau y gwyddoch amdanynt - hoffai anfon rhodd fechan i'r Eisteddfod, byddwn yn falch iawn o'i derbyn. Diolch lawer.
Yr 糯yl ei Hun - Dyddiadau Pwysig
Yr 糯yl Ddrama - Yr wythnos 21 - 25 Ebrill yn Neuadd y Plwyf, Llandegfan. Gall fod yn unrhyw beth a un noson i dair fel rheol. Enwau rhai cwmn茂au i mewn eisoes.
Yr Arddangosfa Celf a Chrefft - Yn Neuadd y Plwyf, Llandegfan eto. Bydd yr Agoriad Swyddogol ddydd Mercher, 30 Ebrill a chyfle wedyn i ymweld 芒'r Arddangosfa 03 - 8 o'r
gloch ddydd Iau a dydd Gwener, 1 a 2 Mai.
Yr Eisteddfod - Yn Ysgol Gyfun David Hughes, Y Borth nos Wener 9 Mai a thrwy'r dydd Sadwrn, 10 Mai, gyda'r 糯yl Offerynnol hefyd ar y Sadwrn.
Seremon茂au: Y Coroni ar y nos Wener. Y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio yn ystod dydd Sadwm (gyda'r Babell L锚n i ddilyn seremoni'r Cadeirio).
Cymanfa Ganu - Nos Sul, 11 Mai yng Nghapel Barachia, Llandegfan, (yr Hen Bentref) am 8 o'r gloch. Yr arweinydd fydd y Dr Goronwy Wynne, Licswm, gydag un ohonon ni, sef Evelyn Roberts, wrth yr organ. Bydd rhaglenni ar werth o ganol Ebrill ymlaen.
Fel y gwelwch chi, mae gwledd yn ein haros ni. Cadwch eich llygaid ar agor am fwy o fanylion yn y Wasg ac ar bosteri o hyn i ddechrau Mai - ac edrychwn ymlaen at gael eich cwmni
a'ch cefnogaeth dros yr 诺yl!
Eisteddfod M么nHanes Eisteddfod M么n