Yn anffodus yr oedd yr hindda mor oer, a'r cymylau yn bygwth glaw fel y penderfynwyd cynnal y Seremoni yn y Capel Mawr. Erbyn 2 o'r gloch yr oedd Band y Borth, y dawnswyr o Ysgol Gynradd Y Borth, aelodau Gorsedd Beirdd M么n o dan arweiniad Huw Goronwy, y Derwydd Gweinyddol, oll yn eu gynnal gwynion, gleision a gwyrddion wedi eu gosod yn daclus ar gyfer y Seremoni o fewn muriau'r capel. Daeth cynulleidfa dda i wylio'r Seremoni, gan gynnwys Meiri Porthaethwy, Amlwch, Biwmares a Llangefni ynghyd ag aelodau Pwyllgor Gwaith Eisteddfod M么n 2006, fydd gyda llaw, yn cael ei chynnal yn Ysgol David Hughes fis Mai y flwyddyn nesaf. Cafwyd Seremoni cofiadwy a chlyd iawn o fewn muriau'r capel. Rhai o uchelbwyntiau'r Seremoni oedd cyfarchiad y Derwydd Gweinyddol, Delian Haf y Cofiadur yn darllen y Proclamasiwn, arawd fer ac i bwrpas gan Nia Lloyd Jones, Llanfairpwll, a derbyn Mrs Liz Roberts, Cerrig Cafael, Dothan, T欧 Croes yn aelod newydd o'r Orsedd. Cafwyd hefyd wahoddiad i Eisteddfod M么n Cylch y Garn sydd yn cael ei chynnal mewn pabell ganol mis Mai yn Llanrhuddlad, gan Idwal Parry, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Cafwyd hefyd ddatganiadau ar ddechrau'r Seremoni gan y band, gan gynnwys t么n Finlandia ar gyfer canu'r emyn Dros Gymru'n Gwlad. Trefnwyd i ddawnswyr Ysgol Gynradd Y Borth berfformio eu dawns flodau yn yr Ysgoldy ar ddiwedd y Seremoni, gyda Mair Jones o Lansadwrn yn gyfrifol am eu hyfforddi. Ann Morgan o Fangor oedd yn cyfeilio i'r dawnswyr gyda'r delyn a Mair Jones ac Anwen Edwards yn ei chynorthwyo ar y ffidil. Cyflwynwyd yr Aberthged i Derwydd Gweinyddol gan Ffion James o Lanfairpwll, sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol David Hughes. Ar ddiwedd Seremoni clyd, trefnus a hapus iawn, gwahoddwyd pawb i de ardderchog yng Ngwesty'r Anglesey Arms.
|