Roedd y gefnogaeth yn arbennig a gwnaethpwyd 拢1,050. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cyfraniadau hael.
Roedd yna brysurdeb mawr o gwmpas y stondinau ac yr ydym yn ddyledus i lawer o ffrindiau oedd yn barod i gynorthwyo aelodau o'r Pwyllgor.
Yn absenoldeb ein Llywydd, Mari, diolchwyd i bawb gan Meriel a chydymdeimlodd a Mari yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer.
Mynegodd hefyd ddiolchgarwch y Pwyllgor i Asda, Co-op, Morrisons, Somerfield a Tesco am eu rhoddion o wyau Pasg i'w defnyddio yn 150 o gywion bach lliwgar oedd Gwyneth wedi eu gwau. Mae bob un wedi gwerthu a mae hyn wedi bod yn gyfraniad derbyniol iawn at ein ymgyrch.
Croesawyd Mrs Ruth Owen, ein Ymgynghorydd a Dr Jeremy Jones o Adran Rheumategol, Ysbyty Gwynedd, sydd bob amser yn gefnogol.
Mae Ruth yn llawn egni ac yn brysur yn trefnu abseil i lawr adeilad Liver, Lerpwl, a Devil's Gorge Loggerheads yn ogystal a thaith gerdded yn ardal Llangollen a Ras y Ddraig ar yr afon yn Gaer - i gyd yn weithgareddau noddedig.
Beth amdani, ddarllenwyr Papur Menai. Os oes rhywun efo diddordeb, cysylltwch a Mrs Ruth Owen ar 01492 518760.
|