Roedd y Neuadd yn llawn dop
gydag aelodau o'r tri t欧, sef Menai, Rhosyr ac Aethwy.
Dechreuodd y diwrnod gyda'r part茂on llefaru a'r cystadlaethau
offerynnol.
Braf oedd cael gweld y fath dalent ymysg disgyblion
Bl 7-9, roedd safon y cystadlu yn uchel iawn a'r rhai a
gyrhaeddodd y llwyfan yn llawn haeddu cydnabyddiaeth am eu
doniau.
Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd yr unawdwyr a
swynodd y dorf gyda'u lleisiau, llongyfarchiadau i'r tri.
Roedd
y dawnsio a'r meimio eleni yn wreiddiol ac yn egniol a'r
gynulleidfa yn mwynhau yn arw, gan symud i'r gerddoriaeth.
Roedd prif seremon茂au y diwrnod yn llawn urddas a braf
oedd gweld teilyngdod ymhob maes gyda nifer fawr o
ymgeiswyr haeddiannol ond y goreuon yn dod i'r brig.
Hoffem
longyfarch Cadi, Katie, Theo, Sian a Mared ar eu llwyddiannau
ym mhrif gystadlaethau y diwrnod.
Cafodd y disgyblion eu syfrdanu wrth weld wynebau
cyfarwydd eu hathrawon yn dawnsio yn wyllt ac yn meimio yn
frwdfrydig i recordiau Cymraeg.
Anodd oedd eu hadnabod o
dan y gwalltiau pinc ac oren a'r gwisgoedd trawiadol.
Wedi wythnosau o ymarfer caled, roedd y tri c么r a oedd yn
cynrychioli y tai yn barod i ganu ar ddiwedd y prynhawn.
Roedd fersiwn y corau o 'Ar adenydd brau y nos' yn amrywio o
berfformiadau unsain i harmon茂au swynol, gyda rhai corau yn
ychwanegu cyfeiliant offerynnol.
Rhosyr oedd y c么r buddugol,
gyda Menai ac Aethwy yn 2il a 3ydd agos iawn.
Roedd safon uchel hefyd i'w weld yn yr Eisteddfod hyn a
gynhaliwyd ar y pnawn Mercher.
Cawsom ein diddori gan yr
unawdwyr piano dawnus, y grwpiau meimio a'r bandiau a
greodd argraff fawr ar y gynulleidfa, gan fod y gerddoriaeth yn
amrywio o fandiau roc i ddeuawd lleisiol ac offerynnol.
Menai a ddaeth i'r brig ar ddiwedd y dydd, ac roeddent yn
llawn haeddu y fuddugoliaeth.
Hoffem ddiolch i'r holl
athrawon am eu hymroddiad. Diolch hefyd i aelodau y chweched dosbarth am eu gwaith caled a'u brwdfrydedd ac yn
olaf i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran gan wneud yr
Eisteddfod yn llwyddiannus eto eleni.