大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Paentiad Kyffin Williams o Benrosgarnedd Pen-blwydd Papur Menai
Hydref 2006
Mari Jones yn edrych yn 么l
Ddeng mlynedd ar hugain i'r mis hwn yr ymddangosodd Papur Menai gyntaf.
Ac mae deg rhifyn y flwyddyn wedi ymddangos yn ddi-dor ers hynny - diolch i'r llu gwirfoddolwyr sydd wedi bod ynghlwm wrth y fenter, ac roedd yn fenter y pryd hynny.

Dau Bapur Bro yn unig oedd wedi cychwyn yn y cylch, sef Llais Ogwan ac Eco'r Wyddfa, a'r ddau wedi ennill eu lle yn syth.

Perswad dau 诺r, y diweddar Trevor Morgan a J. O. Jones a barodd i mi ymgymryd 芒'r swydd o fod yn olygydd. Doedd dim troi arnynt, ac mewn munud gwan fe ildiais innau. Digywilydd, yn wir, gan nad oeddwn yn gwybod dim oll am newyddiaduriaeth. Ond b没m yn ddigon hyf i fentro at lygad y ffynnon, a cheisio cyfarwyddyd y pen-newyddiadurwr, John Roberts Williams, a oedd ar fin ymddeol o'i swydd gyda'r 大象传媒 ym Mangor.

Roedd ei gyfarwyddyd a'i anogaeth yn aruthrol. Roedd yn mynnu cael papur newydd proffesiynol ei olwg a'i gynnwys. Roedd yn ein cyfarwyddo fel pe baem yn mynd i gynhyrchu papur o safon y Guardian. Ond gwirfoddolwyr oedd pawb, a phobl brysur mewn swyddi llawn amser.

B没m yn hynod o ffodus yn y panel golygyddol cyntaf. Dyna sut y bu i bump ohonon stwffio i un car, sef Lyn Davies, Dafydd Glyn Jones, Derec Llwyd Morgan, Alwyn Pleming a minnau, a gyrru i hen Ysgol Nant Peris, lle roedd Gwasg Gwynedd ar y pryd. Yno'n disgwyl amdanom roedd y dyn ei hun, John Roberts Williams, i'n hyfforddi ac i ofalu na fyddem yn gwneud smonach o'r rhifyn cyntaf.

Yn ein meddiant roedd dau lun benthyg gan Syr Kyffin Williams, y naill o Landdona ar draws y dudalen flaen, ac un arall o Benygarnedd.

At hynny roedd Derec Owen (Derec Teiars) wedi tynnu llun gwerth chweil ar gyfer tudalen 3 o Mrs Teago yn 97 oed, ac roedd ganddi hithau atgofion am rai o hen ffeiriau'r Borth, ac roedd hynny'n addas iawn ar gyfer rhifyn Hydref. Mae'n addas iawn bod y rhifyn hwn, yn dilyn marwolaeth Syr Kyffin, yn adgynhyrchu'r ddau lun a roddodd i'n cefnogi.

Y wefr y bore Gwener cyntaf o'r Hydref hwnnw, oedd bod pobl ar sgw芒r y Borth yn trafod Papur Menai.

Pob dymuniad da i'r papur ac i'r criw gwerthfawr sydd yngl欧n ag o. Hir y parhao!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy