Dros y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf bu'r gwr am croesawodd i aelwyd Ty'r Gadlys, sef y Dr J. (Jim) A. Davies, o Flaenffos, Sir Benfro, yn llysgennad da i'r Bedyddwyr, yma ar Ynys M么n!! Dyma Gyfarwyddwr Addysg blaengar a llwyddiannus Maldwyn ychydig wedi canol y ganrif a aeth heibio, un a ddaeth yn y man yn Brifathro egn茂ol y Coleg Normal a gwr a ymladdodd yn ddi-arbed i sicrhau einioes y Coleg bryd hynny. Datblygodd y Normal yn Gyfadran Addysg Prifysgol Cymru Bangor heddiw. Addysgwr, gwleidydd, pwyllgorwr, Cynghorwr, dyngarwr, gwr a symbylodd filoedd o unigolion a llu o gyrff i'w helpu i godi symiau enfawr o arian ar gyfer anghenion Ysbyty Gwynedd. Miliynau o bunnoedd yn wir! Dyna'r Dr. J. A. Davies. Hyn i gyd yn ogystal 芒'i waith tros fudiadau fel yr NSPCC a .... a ... mae hi'n rhestr faith.
Wel i chi, mae yna un rheswm arbennig sut y bu'n bosibl i Dr Jim gyflawni cymaint dros y blynyddoedd.
Nesta y wraig
Ei henw hi yw Nesta, a mawr yw meddwl ei gwr o Ferch y Mans hon, a fu, nid fel yng ngeiriau'r ystrydeb sy'n s么n am wraig dda y tu 么l i ddyn da yn ei ochr, yn cydweithio ag ef, yn ei symbylu ymlaen a'i gynnal y bu Nesta yn gyson ers 1959 pan briodwyd y ddau yng Nghapel Seilo, Aberystwyth. Dewch i'w chyfarfod hi...
Magwyd Nesta a Menai yn y Rhewl ger Rhuthun. (Cofnodwn mai ei chwaer yw'r Menai Williams a fu' n gymaint o ddylanwad ar fywyd y Coleg Normal am flynyddoedd lawer. Ymlaen! Wyddoch chi be? Ganwyd Nesta yn yr un llofft ag Emrys ap Iwan! Braint yn wir - i Emrys ap Iwan wrth gwrs! Mae 'na atgofion melys yn dod i'w chof am Ysgol Fach y Rhewl ac Ysgol Ramadeg Brynhyfryd ac fel y treulid y gwyliau i gyd yng nghartre'i mam ym Mhertheirin ger Caersws. Roedden nhw'n ddyddiau da.
Marwolaeth ei Mam
Ond gyda hithau'n ddim ond pymtheg oed, bu ei mam farw a daeth Dad yn debycach lawer i frawd i'r merched. Helpai Nesta ef yn y Band of Hope a'r cyrddau yng Nghlwyd ond, ym 1947 symudodd y teulu i gylch Machynlleth, ei thad yn weinidog ar gapeli "Taith y Wlad", ond Nesta i ffwrdd i Goleg snobyddlyd/Seisnig Berridge House yn Hampstead. Llundain.
"R'on i'n byw am y Sul i gael mynd i'r capel. Ealing y bore a Charring Cross y p'nawn a'r nos. Wedyn mi fydden ni'n mynd efo'n gilydd i ganu i Hyde Park", meddai.
Bu'n un o'r criw sefydlodd Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Llundain efo Monwysion fel Cynrig Lewis a Dafydd Morgan Hughes, dau a ddaeth cyn hir yn amlwg iawn ym myd y Gyfraith. Ym 1950, yn 么l i Gymru, i Aberystwyth, yn nes at ei thad ac i redeg un o hosteli'r Brifysgol yn y dref. Bu'n wyth mlynedd nesaf yn rhai difyr a llawn.
Bywyd llawn yn Aber
Canai yng Ngh么r Madrigal y diweddar Charles Clements a daeth i adnabod llu o fyfyrwyr y cyfnod. Yn eu plith roedd sawl un sydd heddiw yn byw ym M么n. Dyna Nan Hughes a Wendy Davies, rwan o Lanfair, y delynores Llio Rhydderch, o Benllech a Myfanwy (W. J.) Williams, y Talwrn.
Dros y dwr i America
"Yna fe ddaeth yna awydd gweld y byd drosta i. Gwerthu'r car, gadael y swydd a ffwrdd ar y Queen Elizabeth o Southampton i America i weld teulu mam ar ffarm Tynwtra yn Indiana. Bu'n gyfnod cofiadwy, gweld llawer, cyn dychwelyd ymhen rhai misoedd i Lerpwl ar y Britannia ac i swydd newydd sbon,ym 1958, yn Sir Feirionnydd.
Yno fel Trefnydd prydau bwyd yr ysgolion mi ges i gyfnod byr, ond hapus ryfeddol. Cael Swyddfa yn Nolgellau y drws nesa i John Hughes, y Trefnydd Cerdd. Croeso ymhobman. Cael coginio yn Hen Ysgol Capel Celyn cyn y boddi, cofio tad Dr Llyr Gruffydd, y Borth yn Ysgol Bryncrug ac Ysgol Fach Rhydygorlan dros ei phen yn y fforest.
Ffrindiau mynwesol
Mae yna lawer o anwyldeb yn llygaid Mrs Nesta Davies wrth enwi ei ffrindiau dros y blynyddoedd. Mae pobl yn bwysig iawn iddi hi. Roedd yn rhaid enwi Mary, Proskairon, y Bala- ei ffrind penna yn y cyfnod cynnar. Wrth briodi'r Cyfarwyddwr Addysg ifanc, eto ym 1958 a symud i'r Drenewydd, doedd na ddim hawl bron i'w wraig o weithio bryd hynny! Ym 1960 ganwyd Si芒n ac yna, ym 1962 daeth Rhian i gyfannu'r teulu. Cofia'r ymdrech ganddi hi a'r Parchedig Ronald Griffith i gael arian Cronfa Glyndwr i sefydlu Uned Gymraeg o chwech yn y Drenewydd.
Heddiw mae hi'n Ysgol Gymraeg o 300! Gwelodd fwrlwm Eisteddfod Genedlaethol 1965. Cerddoriaeth, C么r Hafren, Gregynog. Gwyl Maldwyn... a dod i gysylltiad agos 芒 theulu Davies, Llandinam. Bu'n gyfnod llawn a llawen eto. Yma y cafodd ei hannog i weithio dros ieuenctid a'r NSPCC. (Wel onid dyma a wnai ei mam a'i thebyg yn wirfoddol fel gwraig gweinidog erioed?)
Croesawi academyddion
Ym 1969, gadael am Fangor a byw yn Athrolys, y Coleg Normal. Fel gwraig y Prifathro, a gwraig y Dr Jim Daives yn enwedig, croesawai luoedd o addysgwyr ac ymwelwyr o bob math i'w haelwyd yn gyson, o Ryan a Ronnie mewn cyngherddau i William Mathaias, o'r Adran Gerdd dros y ffordd a ddoi at y t芒n i orffen cyfansoddi! Yr Arglwydd John Morris (CID ymhobman) yn y 1970au a'r Arweinydd Llafur, Michael Foot a Refferendwm 1979. Gyda hithau'n Gadeirydd Ymgyrchoedd Distroffi'r Cyhyrau cafodd y Llywydd, Syr Richard Attenborough i ddod i gychwyn ei daith ym Mangor - bu ei dad yn fyfyriwr yn y Normal.
Rhwng 1969 a 1985 bu wrth ei bodd ym Mangor. Noda'n arbennig ymdrechion fel UNICEF, cod arian cyntaf yr Hafan, Bangor; C么r Monteverdi a Dosbarth Ysgol Sul Mr Bassett ym Mhenuel a Rhieni Ysgol Dyffryn Ogwen. Daw'r atgofion yn llu!
Ers 1985 setlodd y ddau yng nghymdeithas Biwmares, ond mae nhw'n dal ati efo cymaint o achosion da. Efallai y caf daro heibio eto i s么n am ei hoff fannau, fel Penmon a Phwllfanogl - ffrind da i Syr Kyffin Gregynog ar Llyfrgell Genedlaethol a nid yw gofod yn caniatau heddiw. Hen dro. Pob dymuniad da a diolch o galon i Nesta a Jim Davies am gymaint.
Edward Morus Jones