Yr Is-Bwyllgor Celf a Chrefft roddodd y sialens iddynt a chafwyd ymateb da gan ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Gwahoddwyd Sue a Mike Griffiths, Cwmni Xpose Media Cyf (Anglesey Signs gynt) sydd 芒 gweithdy ar stad ddiwydiannol Mona, i feirniadu'r gystadleuaeth.
![Y logo](/staticarchive/f4b3e16aa50a2b324b0b1b7654d3d5f5af297f59.jpg) Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Sophie Goodwin a'i gwaith hi fydd yn ymddangos ar holl gyhoeddiadau, papur llythyru a phosteri Eisteddfod M么n flwyddyn nesaf.
Derbyniodd logo o'i gwaith wedi'i fframio'n broffesiynol a thocyn llyfr gan Mrs Ruth Davies, Cadeirydd yr Is- Bwyllgor Celf a Chrefft mewn gwasanaeth yn yr ysgol fore Gwener, 23 Mawrth.
Cafodd Seren Viney, Susie Shambrook a Lois Williams hefyd docyn llyfr yr un am eu hymdrechion da hwythau yn llunio logo
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |