大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Mark Petrie Mae'r peilot wrth y llyw
Chwefror 2002
Sgwrsio gyda'r peilot Mark Petrie
Mae'n si诺r bod nifer fawr o ddarllenwyr Y Bedol wedi hedfan, un ai ar eu gwyliau neu gyda'u gwaith. Faint ohonoch chi sydd wedi cael cyfle i gyfarfod y dyn hollbwysig hwnnw y byddwn ran amlaf yn clywed ei lais yn ein cyfarch ar ddechrau neu yn ystod y daith?

Pan glywais i felly fod un o gapteiniaid British Airways yn byw yn ein plith roedd yn rhaid i ni gael sgwrs. Felly ar bnawn gwlyb a gwyntog iawn dyma droi am Glawddnewydd i gartref cysurus Mark a Bethan Petrie.

Ganwyd Mark yng Nghanada ond pan oedd yn fachgen ysgol symudodd y teulu i Garrog ac aeth yntau i Ysgol y Berwyn, lle'r oedd Bethan (Morris bryd hynny) hefyd yn ddisgybl. Bellach mae'r ddau'n briod gyda dau o blant, Sioned ac Owen, sydd yn mynychu Ysgol Clocaenog.

Ar 么l gorffen yn yr ysgol ymunodd Mark 芒'r Llu Awyr fel technegydd radar, ond hedfan oedd ei uchelgais ac ymhen dwy flynedd cafodd ei dderbyn i ddilyn cwrs hyfforddiant i fod yn beilot.

Bu'n hedfan Phantoms a Tornadoes am ddeng mlynedd gan deithio ledled y byd yn 么l gofynion y gwasanaeth. Yn ystod y cyfnod hwn penderfynodd newid gyrfa i hedfan awyrennau masnachol, a bu'n paratoi i sicrhau trwydded sifil - proses gostus a gydag agweddau hollol wahanol i'r Llu Awyr, e.e. rhaid oedd sylweddoli mai budd a gofal y teithwyr sy'n hollbwysig, roedd rhaid newid agwedd at hedfan yn llwyr.

Ar 么l cael y drwydded, ymunodd 芒 British Airways gan hedfan o Heathrow a Gatwick ar awyrennau Tristar. Yn anffodus dechreuodd Rhyfel y Gwlff a bu gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr, fel sydd wedi digwydd yn awr. Ar un amrantiad roedd 70 o beilotiaid yn ddi-waith. Mae pob peilot yn cael ei hyfforddi i hedfan un math o awyren - cymer dri mis i wneud hyn ar g么st o 拢50,000.

Yn dilyn hyn cafodd Mark ei hyfforddi i hedfan Boeing 747, Jumbo Jet, a bu'n hedfan o Heathrow a Gatwick i bedwar ban y byd. Roedd yn mwynhau hyn gan ei fod yn cael cyfle i weld a phrofi bywyd mewn gwledydd dieithr iawn.

Mae rheolau caeth yngl欧n 芒 gwaith a gorffwys. Ar 么l taith hir rhaid treulio cyfnod penodedig yn gorffwys, nid yn unig oherwydd blinder y gwaith ond hefyd o gofio bod y clociau'n newid wrth deithio'r cyfandiroedd.

Un fantais fawr o'r teithio pell oedd ei fod yn cael cyfnodau hirach adref. Ond bellach ers dwy flynedd mae'n hedfan awyrennau Boeing 737 o Fanceinion i bob cornel o Ewrop, teithiau byrion o ryw ddwyawr neu dair.

Dyma ofyn ambell gwestiwn sydd bob amser ym meddwl rhywun wrth hedfan.

Ydi'r peilot yn hedfan yr awyren ar hyd y daith?
Nag ydi. Yn aml iawn os ydi popeth yn dawel ar 么l esgyn i tua deng mil o droedfeddi mae'r Autopilot yn cymryd drosodd. Byddai'n bosib glanio efo hwnnw hefyd os yw cyfarpar y maes yn addas, ond y peilot sydd yn llywio wrth lanio bob amser. Mae llywio'r Autopilot yn rhoi taith esmwythach a llyfnach oherwydd dydi o ddim yn blino fel y bydd bod dynol.

Oes yna berygl mynd i gysgu wrth y llyw ar daith hir?
Na, dim perygl! Mae yna rybuddion o hyd sydd yn gwneud yn si诺r eich bod yn effro ac wrth gwrs ar deithiau sydd yn hirach nac wyth awr mae yna beilotiaid eraill i gymryd drosodd. Dyna sy'n braf ar deithiau hir, mae'n bosib cael gorffwys yn yr awyren.

Wrth i chi ddod i Fanceinion o'r cyfandir pryd fydd yr awyren yn dechrau disgyn?
Rhan amlaf tua chan milltir i ffwrdd o'r maes awyr, ychydig i'r de o Birmingham efallai. Os ydech chi'n hedfan ar uchder o 30,000 troedfedd yna er mwyn glanio'n esmwyth rhaid dechrau disgyn tua 90 milltir cyn glanio. Yn aml iawn ar fore clir byddwch yn gweld cynffonnau gwynion yr awyrennau yn symud o'r gogledd i'r de, mae'r rhain wedi croesi o'r UDA dros nos ac yn anelu am Lundain neu'r cyfandir.

Pryd y byddwch chi'n gorfod cyrraedd y maes awyr cyn hedfan?
Gan amlaf byddaf yn cyrraedd yno rhyw awr cyn hedfan, ac yn treulio chwarter awr yn trafod llwybr y daith, rhagolygon y tywydd a.y.b cyn mynd i'r awyren i gyfarfod y criw a gwneud yn si诺r fod popeth yn iawn - nid yn unig y peiriannau ond sicrhau fod pethau fel y toiledau'n gweithio, y strapiau ac unrhyw beth sy'n ymwneud 芒 diogelwch a chysur y teithwyr.

Faint o gyfathrebu sydd rhwng y capten a'r teithwyr?
Mae'n bwysig fod pobl yn cael gwybod beth sydd yn digwydd os bydd anawsterau neu oedi cyn cychwyn ar daith. Yn anffodus ar 么l Medi 11 dydyn ni ddim yn cael gwahodd neb atom i'r caban, rhaid cadw'r drws ar glo. Roeddem ni'n arfer croesawu'r cyfle i wneud hynny, yn enwedig efo teithwyr oedd yn ofni hedfan am wahanol resymau.

Ydech chi'n gorfod cael profion meddygol o dro i dro?
Ydym wir, mae'r rheolau'n llym iawn. Rhaid cael prawf meddygol trylwyr bob chwe mis a hefyd ddwywaith y flwyddyn rydym yn treulio dau ddiwrnod mewn dynwaredwyr hedfan (flight Simulator) sydd yn rhoi prawf ar eich gallu a'ch ymateb ymhob math o sefyllfa a hefyd cawn ein harolygu ar daith yn yr awyren ei hun. Os methwch chi un o'r profion hyn mae'ch trwydded hedfan yn cael ei hatal.

Ydech chi wedi cael unrhyw brofiadau annifyr yn ystod eich gyrfa?
Wel, roeddwn yn cychwyn unwaith fel cyd-beilot ar awyren Tristar o Gatwick i Los Angeles. Wrth i ni godi oddi ar y llain roedd yna glec enfawr a s诺n fel gwn yn tanio. Sylweddolodd y ddau ohonom fod un injan ar d芒n ac aethom drwy'r dril yr oeddem wedi ein hyfforddi ynddo ac anelu am y m么r i gael gwared ar beth o'r tanwydd cyn dychwelyd i Gatwick. Wedyn ailgychwyn am Los Angeles mewn awyren arall, bedair awr yn ddiweddarach. Fel mae'n digwydd roedd Bethan ar yr awyren y tro hwnnw - roedd o'n dipyn o brofiad iddi hi!

Ar hynny daeth Sioned ac Owen adref o'r ysgol ac roedd rhywbeth gwahanol i sgwrsio amdano, sef hanes diwrnod yr ysgol. Ond un peth sy'n sicr, ar 么l 21 mlynedd o hedfan, mae Mark yn dal i fwynhau pob munud o'r gwaith!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy