Aethpwyd 芒 hi ar frys i ysbyty Alder Hey a gwnaed sawl prawf arni.
Darganfyddwyd bod canser ar y gwaed ac heb os nac onibai buasai yn rhaid iddi gael trawsblaniad mer yr esgyrn - heb hwn ni fyddai Anna gyda ni heddiw.
Ar 么l chwilio'n genedlaethol a lleol daethpwyd o hyd i rywun a fyddai'n barod i roi mer yr esgyrn i Anna.
Bu rhaid i Anna gael wythnos lawn o cimotherapi cyn cael y trawsblaniad. Roedd y misoedd nesaf yn anodd a phoenus iawn i ni fel teulu.
Ar 么l blwyddyn a hanner mae Anna yn well o lawer ac i ddathlu, gwahoddwyd hi i arwain T卯m Rygbi Cenedlaethol Cymru allan ar faes Y Mileniwm ar Chwefror 4 - Cymru yn erbyn Iwerddon.
Cawsom fel teulu amser bythgofiadwy gyda phawb, sef cyn chwaraewyr Cymru, Katherine Jenkins, C么r Froncysyllte, Gareth Jenkins, Stephen Jones a'r t卯m i gyd.
Diolch i elusen Anthony Nolan, Undeb Rygbi Cymru a Coca Cola am ddewis Anna i fod yn 'fascot' am y diwrnod.
Diolchwn yn arbennig i bawb am eu cefnogaeth a'u caredigrwydd ar hyd y ddwy flynedd diwethaf, y llu o gardiau ac anrhegion a dymuniadau gorau at Anna a ni fel teulu, ac hefyd i elusen Clic Sargent Cymru a phob elusen cancr arall.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |