Dwed ychydig wrthyn ni am dy gefndir.
Cefais fy magu ar fferm Hafod y Maidd, Glasfryn, ger Cerrig y Drudion, yr ieuengaf o dair o ferched. Dwi'n lwcus iawn oherwydd ein bod yn glos iawn fel teulu. Mae Lowri, fy chwaer hynaf, yn byw ym Mhentrefoelas gyda'i gwr, Gethin Clwyd a'u plant Llyr a Siwan. Mae Gwawr, Ron, a Leusa'n byw yn St Tropez, De Ffrainc, ac yn disgwyl eu hail blentyn, - ecseitment mawr!
'Roedd ysgol gynradd Glasfryn yng ngwaelod y ffordd, a fi oedd yr hwyra'i gyrraedd bron bob bore! Mynychu Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst wedyn ac wedi gorffen Lefel A, cychwynais ar gwrs nyrsio yn Ysbyty Glan Clwyd.
Beth ysgogodd di i fynd i nyrsio?
'Roedd fy mryd ar fynd i nyrsio ers tro, - roedd Gwawr yn nyrs a roedd gweld faint o bleser a gai allan o'i gwaith yn codi awydd arna inne i ddilyn yr un yrfa. Wedi dwy flynedd o fod yn nyrs staff penderfynais yn 1992 fynd i ddilyn cwrs gradd mewn nyrsio ym Mhrifysgol Meddygaeth a Nyrsio Caerdydd. Fe agorodd hyn gymaint o ddrysau imi ym myd nyrsio, a hefyd, fe wnes fwynhau bob munud o fywyd y ddinas!
'Roedd diddordeb mawr gennyf mewn astudio canser, yn enwedig canser y fron. Felly, symudais yn 1995 i Lundain i weithio yn Ysbyty Canser Royal Marsden, Chelsea. Mae'r ysbyty'n arbenigo mewn ymchwil canser ac yn cael ei chyfri'n un o oreuon y byd. Profiad gwych oedd hynny a'r un mor wych oedd byw yng nghanol Llundain, - cyfarfod ffrindiau o wahanol wledydd a dod i adnabod King's Road a'r West End fel cefn fy llaw. S么n am siope' 'sgidie' ffantastig!! 'Roeddwn yn rhannu fflat gydag Almaenwr, un o Dde Affrica a Sais, a finne'n Gymraes. Diddorol iawn!
Pryd ddoist ti'n 么l i Gymru?
1997 - dychwelais adre' am bythefnos i weld fy nheulu. 'Roeddwn allan efo ffrindiau a fe weles i 'bishyn' a ddaliodd fy llygad. Mae'r 'pishyn' rwan yn wr imi ers mis Medi 1998. Mae Iwan a finne'n byw yng Nghefn Nannau, Llangwm erbyn hyn, sef ei gartre' fo.
Wyt ti'n dal ati i nyrsio ar 么l priodi?
Fe fues i'n nyrsio yn Clatterbridge am ychydig fisoedd cyn symud i Uned Ganser Ysbyty Gwynedd, Bangor. Yno 'roeddwn yn rhoi cemotherapi i gleifion, a gweithio fel 'Cydlynydd Casglu / Trawsblannu B么n-gelloedd / M锚r' rhwng Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd. 'Roeddwn yn gofalu a pharatoi'r cleifion oedd yn cael cemotherapi cryf iawn, -yn casglu'r celloedd ifanc yn y gwaed gyda pheiriant arbennig, yna'u rhewi a rhoi'r cemotherapi, cyn rhoi'r celloedd yn 么l i'r claf. Treuliai'r cleifion tua naw mis yn yr ysbytai er mwyn cryfhau ar 么l triniaeth mor arw.
Ddwy flynedd a hanner yn 么l dechreuais weithio'n y Ganolfan Ganser yn Ysbyty Glan Clwyd fel Nyrs Arbenigo Oncoleg 'Tenovus'. Mae pencadlys yr elusen ganser 'Tenovus' yng Nghaerdydd. Mae'n cyd-weithio gydag ymchwil triniaethau canser. Mae llawer o nyrsus 'Tenovus' yn Ne Cymru a thair ohonom yn y Gogledd. Mae'r swydd yn cynnwys rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gleifion canser teuluoedd wrth iddynt glywed deiagnosis a phenderfynu ar driniaeth.
Ydy hi'n swydd anodd?
Mae'r awyrgylch yn hapus ac yn obeithiol y rhan fwyaf o'r amser. Er bod y swydd yn gallu bod yn drwm yn feddyliol a gall fynd at fy nghalon ar adegau, erbyn hyn, mae'r triniaethau'n llawer gwell, a'r sgil-effeithiau'n cael eu trin yn well. Mae llawer mwy o bobl yn gwella. Mae'n beth rhyfedd i'w ddweud ond fydd dim rhaid gweld llawer ohonyn nhw eto! Mae cymaint o foddhad i'w gael o weld y cleifion yn dod drwyddi. Hefyd, mae gennyf gymaint o ffrindiau ar hyd a lled Gogledd Cymru!
Wyt ti wedi teithio?
Mae teithio wedi rhoi llawer o bleser imi. Yn 1994, pan oeddwn yn y Brifysgol, cefais siawns i fynd dramor am ddeufis i astudio iechyd merched a phlant yn Brunei ger Borneo. Profiad bythgofiadwy! Gweld y Punan Tribes yn byw yn y jyngl, mynd i Kampong Ayar i weld teuluoedd yn byw mewn tai pren ar stiltiau, wedi'u adeiladu uwchben dwr a oedd fel m么r! Y sioc fwyaf oedd bod mewn cwch hir a chul a gweld crocodeils a nadroedd yn mynd heibio!
Bum ym Mhacistan cyn dechrau nyrsio, am fis, i weld Yncl Hywel (brawd Mam) a Myfanwy a John Stubbs (cyfnither i mi). Bum yn Singapore a Malaysia am ychydig wythnosau, - lle diddorol dros ben a roeddwn mor lwcus o gael mynd i Israel a'r Aifft beth amser yn 么l. Er ein bod fel teulu'n hiraethu am Gwawr a'i theulu mae hi'n gr锚t cael mynd i Dde Ffrainc am wyliau'n reit aml, - esgus da!
Be' wnei di yn dy amser sbar?
'Dwi wrth fy modd yn beicio, a gwneud yoga. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn aromatherapi a dw i wrthi'n dysgu chwarae'r allweddellau! Yr uchelgais mwyaf pwysig ar hyn o bryd yw cael y pishyn' i brynu ceffyl imi! Wyt ti'n darllen hwn Iwan?
Pwy wyt ti am ei enwebu yn y gadwyn at y tro nesa?
'Dwi wedi chrybwyll o'r blaen - Myfanwy - fy nghyfnither o Gorwen. Mae hi a'i gwr, John, yn rhedeg busnes planhigion (ac yn hysbysebu'n Y Bedol
gyda llaw!) Fe gewch chi sgwrs ddiddorol gyda hi dwi'n siwr.