大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Nerys Owen enwebodd ei g诺r Eryl Owen, fel y person nesaf yn y gadwyn i'w holi yn y gyfres Portread ... Portread o Eryl Owen, Bryn Caredig, Rhewl
Nerys Owen enwebodd ei g诺r Eryl Owen, fel y person nesaf yn y gadwyn i'w holi yn y gyfres Portread ...

Dyma'r tro cyntaf i wraig enwebu ei gwr i'r gyfres Portread, a rhaid dweud mai profiad digon doniol oedd hi i fynd i holi gwr eich m锚t gorau! Dim nad ydw i'n 'nabod Eryl o gwbwl, cael gafael arno oedd y gamp!

"Lle mae dy ddyn di Ner?" oedd y cwestiwn pan ddalldes mai fi oedd yn gorfod ei interigetio "Wel Seland Newydd mae o heddiw" meddai fel petai o newydd bicied i Ruthun. Un e-bost yn ddiweddarach mi ddois o hyd iddo yn Chicago (ro'n i newydd dderbyn erthygl Huw McKee o Calcutta fel e-bost yr un diwrnod, ew tydi'r byd 'n fach dudwch!!)

Beth bynnag, na ddeall ei fod yn cyrraedd Manceinion dydd Gwener ond fuase raid imi fod yn reit handi achos ei fod o'n mynd i ffwrdd i Milan y bore Mawrth canlynol. Penderfynu danfon cwestiynau ar yr e-bost er mwyn hwyluso'r gwaith. Picied i Bryn Caredig i n么l yr atebion a gweld bod yr hen hogyn wedi neud ei waith cartref yn barod !! Paned a sgwrs a rhoi'r byd yn ei le (wel a deud y gwir roedd o newydd fod rownd y byd yr wythnos gynt!!)

Rho dipyn o dy hanes cynnar i ni Eryl.
Mi es i ysgol y Rhewl ac yn cerdded bob dydd o Brofair, yna mi es i Brynhyfryd pan oeddwn yn 10 oed ar 么l pasio'r 11+ am fod fy mhen blwydd yn Hydref, i form '1 Welsh'. Roedd y rhai oedd yn methu yr 11+ yn mynd i form '1 Cymraeg', ffordd od iawn o enwi dosbarthiadau ynde.

Yn yr ysgol roeddwn yn chwarae p锚l droed i d卯m yr ysgol a hefyd yn cystadlu yn yr hurdles i'r ysgol ac i'r Sir. Y gorau wnes i erioed oedd bod yn bencampwr gogledd Cymru a chael pumed ym mhencampwriaeth Cymru i gyd. Hefyd mi ges i y fraint o gael fy newis i gynrychioli yr ysgol yn y G锚mau Cymreig yn 1968. Mi roedd yna lawer o enwogion fel Lynne Davies yn cystadlu ar y pryd.

Ar wah芒n i chwaraeon a chwmni ffrindiau wnes i ddim mwynhau yr ysgol lawer ac ar 么l pasio 6 lefel O, mi es i'r "Tech" yn Wrecsam i wneud OND a yn HND mewn Peirianneg. Mi dreuliais dros bum mlynedd yn Wrecsam ac yn trafeilio ar fws dybl decer Peter Evans o Rhewl bob dydd. Yn y dyddiau yne doedd dim drws ar y bws ac yr oedd hi yn oer iawn yn y gaeaf! Am fod fy nghwrs yn gorffen ar 么l y cyrsiau eraill roedd rhaid i mi hitcheicio adref bob dydd; lwcus iawn fy mod i ar sandwich course ac yr oedd hyn yn golygu fy mod i ddim ond yn mynd i'r tech am hanner y flwyddyn. Yn ystod yr hanner arall roeddwn yn mynd i gael hyfforddiant diwydiannol i gael profiad gwaith a mi weithiais i gwmn茂oedd yn Abergele, yn Wrecsam am ambell dro yn Birmingham.

Sut y daethost yn ddyn busnes rhyngwladol dwed?
Ar 么l pasio'r HND mi ges i waith ar yr yst芒d ddiwydiannol yn Wrecsam fel peiriannwr cynhyrchu. Roeddwn yn cael 拢1,500 y flwyddyn a mi wnes i brynu car - y cyntaf - Mini fan. Ar 么l gweithio yna am ryw ddwy flynedd a dod i gysylltiad efo cwmni o Lundain mi ges i gynnig gwaith ganddyn w. Roedd y gwaith yn golygu trafeilio dramor a'r daith gyntaf oedd i'r Swistir o Manceinion yn 1973. 'Roeddwn yn trafeilio i Ffrainc, yr Almaen, Sbaen ac i'r Eidal hefyd.

Mi wnaeth cwmni Monza gynnig gwaith i mi i ddatblygu eu marchnadoedd tramor - so off 芒 fi i fyw i Monza yn Ionawr 1975. Yn y fflat wrth y parc yn Monza roeddwn yn gallu gwylio'r Grand Prix ar y teledu ac yn gallu ei glywed yn fyw! I'r cwmni yna mi drafeiliais bron iawn i bob man yn America ac mi wnes i gyflwyno papur technegol yn y Colloseum yn Efrog Newydd a dallt am y tro cyntaf fy mod i byth yn mynd i lwyddo i siarad yn gyhoeddus. Yn y cyfnod yno roeddwn yn dal i drafeilio rhywfaint yn Ewrop hefyd.

Ar 么l hynny mi ges swydd mewn cwmni arall ac yr oeddwn yn gyfrifol am Dde America, rhan o Affrica, y Dwyrain Pell a Awstralasia. Roedd hyn yn golygu lot o drafeilio a thripiau o chwe wythnos ar y tro. Roeddwn yn byw ym Milan ar yr adeg yna. Yn wahanol i'r dyddiau yma doedd yna ddim rhyngrwyd na ff么n symudol. Ar 么l cymaint o brofiad datblygu marchnatau dramor mi wnes i benderfynu cychwyn cwmni fy hun yn cynnig gwasanaeth i fwy nac un cwmni ac mi wnes i hynny yn 1981.

Mae y busnes wedi bod yn llwyddiannus iawn ac yn awr yr wyf yn gweithio i nifer bach o gwmn茂oedd o'r Eidal, un o Sbaen ac un o Loegr, - maen nhw i gyd yn yr un maes sef Awtomeiddio Diwydiannol. Dwi'n meddwl weithiau mae Eidaleg yw fy iaith gyntaf - hon yw yr iaith dwi yn ddefnyddio fwya' a mi fyddai yn treulio y rhan fwyaf o'r dydd yn siarad yr iaith yma. Mae fy Nghymraeg i wedi gwella yn arw ar 么l cael cymaint o wersi gan Nerys fy ngwraig ond mae o yn bell o fod yn berffaith! Rwyf yn siarad Sbaeneg yn go lew a jyst digon o Ffrangeg i wneud fy ngwaith.

Beth ydy wythnos normal iti wrth deithio n么l a blaen?
Gadael Bryn Caredig am bump bore dydd Llun a thrafaelio i wahanol wledydd yn Ewrop, weithiau dwi'n mynd i America, Asia ac Awstralia. Dwi'n treulio wythnos pob mis yn yr Eidal. Dwi'n trio dod adref erbyn nos Wener ond dydi hynny ddim yn bosib bob wythnos. Dwi'n gweithio oriau hir - yn aml 12 awr y dydd heb s么n am drafeilio a mynd allan i swper ac yn y blaen.

O'r holl wledydd wyt ti wedi ymweld a nhw pa un wyt ti'n hoffi neu gas谩u?
Buaswn i ddim yn dweud fy mod yn cas谩u 'run wlad a mae pob gwlad yn ddiddorol yn ei ffordd ei hun. Mi wnes i fwynhau Seland Newydd ac Awstralia a mae rhai o wledydd Asia yn ddiddorol iawn yn enwedig Japan am eu bod mor wahanol i'r lleill. Mae De America yn ddiddorol ar wah芒n i'r tlodi sydd ym amlwg ym mhobman. Mae Gogledd America yn wlad hyfryd a diddorol.

Pa westy ydi'r gore i ti aros ynddi?
Yn ystod fy ngwaith, Yr Oriental yn Bangkok ac yn Hong Kong, un neu ddau o Four Seasons, Copacabana Palace yn Rio de Janeiro. Plaza - New York sydd yn aros yn y meddwl. Ond ar wyliau y gorau o bell oedd y Datai ar ynys Langkawi yn Malaysia a wedyn y Splendido yn Portofino.

Heblaw am goginio (gai fod yn dyst fod Eryl yn chef heb ei ail!) pa ddiddordeb eraill sydd gennyt?
Wedi bod yn byw ar ben fy hun dwi wedi bod yn coginio am flynyddoedd. Wedi dechrau hefo chips ar 么l bod allan ar nos Sadwrn ond wedi symud ymlaen i Vesta Chow Mein yn reit sydyn. Delia Smith ddaru roi yr hyder i mi wneud pethau mwy cymhleth. Roeddwn yn gwirioneddu ei bod hi mor hawdd coginio pethau wrth ddilyn ei hesboniadau manwl.

Dwi'n mwynhau trefnu trip Ysgol Sul Capel y Rhewl yn enwedig am fod y rhifau yn cynyddu pob blwyddyn. Erbyn hyn mae y bws bron iawn yn llawn. Ers dwy flynedd rydw i'n noddi t卯m p锚l droed Cynghrair yr Haf Rhewl a wedi prynu cit iddynt. Mae yna seren goch ar ffrynt y cit am mai dyne beth ydi enw fy nghwmni. Mi wnaethom ennill y gynghrair y flwyddyn yma.

Wyt ti'n casglu rhywbeth?
Dwi'n hel crwbanod bach o wahanol ddeunyddiau, stampiau a darnau arian, tipyn bach o arian Caer ac Airmiles!

Oes gennyt ti rhywbeth wyt ti'n falch ohono?
Anodd iawn dweud - mae dilyn yr hogiau yn tyfu ac yn datblygu yn dal i roi gwefr pob dydd.

Oes gennyt uchelgais o gwbl?
Dwi wedi bod mor ffodus, wedi cael cymaint, wedi gwneud a gweld cymaint fuaswn ni ddim yn gwybod sut i ateb y cwestiwn yna.

Sawl taith awyren erbyn hyn?
Tua 2,080 ers y cyntaf yn 1973 ac yr wyf yn gwneud tua 100 pob blwyddyn. Dwi wedi gwneud taith o gwmpas y byd ambell i dro ac yn ddiweddar ym mis Medi mi wnes i Thailand, Singapore, Awstralia, Seland Newydd, California a Chicago mewn 11 diwrnod. Roedd hi yn ddifyr iawn cychwyn o Auckland am chwech o'r gloch y nos ac yn cyrraedd Los Angeles am ddeg o'r gloch y bore yr un diwrnod - gwneud i rywun deimlo'n iau hefyd.

Bu Eryl yn brysur yn pacio ei offer swyddfa tra roeddwn i'n darllen ei atebion, angen codi am bump o'r gloch drannoeth i fynd i Milan. Paned sydyn cyn heglu hi am adre' ... gyda llaw pwy wyt ti'n ei enwebu at tro nesa Eryl?
Saib, meddwl ... "Be am Gwil Bychymbyd!" Gwilym Cynwal amdani felly.

Does dim enw awdur gyda'r erthygl hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy