Wrth deithio heibio fferm organig y Rhug, mae modd gweld cerflun o feison sydd wedi ei osod ar f么n coeden yn ymyl corlan yr anifeiliaid hynod yma sydd bellach yn rhan bwysig o stoc st芒d y Rhug.
Gwnaethpwyd y cerflun allan o ddarnau o fetal gan y cerflunydd Andy Hancock. Yn wreiddiol o Melbourne, Awstralia, mae'n teithio'r byd yn creu cerflunau o bob math ar gyfer cwsmeriaid boed unigolion neu gwmnioedd.
Mae Andy Hancock yn defnyddio deunyddiau naturiol fel pren, tywod a hyd yn oed rhew ar gyfer ei gerfluniau, yn ogystal 芒 darnau diwydiannol fel metal.
Gosodwyd y cerflun ar st芒d y Rhug ar gyfer Sioe Sir Feirionnydd a gynhaliwyd yno ddiwedd Awst. Cyflwynwyd praidd o feison ar dir y Rhug tua tair mlynedd yn 么l ac maent i'w gweld yn pori'n braf ar y caeau ger y fferm.
|