Bron yn ddieithriad, mae gan bob gwraig fferm ddiddordeb mewn anifeiliaid, a bod gwell gan rhai ohonynt rhai anifeiliaid yn fwy na'i gilydd. Ceffylau yw hoffter mawr Olwen Jones sy'n byw gyda'i gŵr Owen a'u plant Huw ac Ann ar fferm ger Gwyddelwern. Adlewyrchir ei hoffter ohonynt wrth iddi arlunio gyda phastelau ac olew.
"Pan oeddwn i yn yr ysgol, os baswn i'n cael gwneud llun o geffyl ro'n i'n hapus," meddai. Er ei bod hi wedi dysgu ei hun i arlunio, mae hi'n cydnabod y gefnogaeth a'r cyfarwyddyd a gafodd gan ei hathro arlunio, Glyn Baines, yn Ysgol y Bala. Serch hyn, nid oedd Olwen yn rhannu hoffter Glyn o gelfyddyd haniaethol - mae'n well gan Olwen ddarlunio pethau byw a mwy real.
Tra'n yr ysgol, enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Derwen yn y 70au gyda darlun o Harvey Smith yn marchogaeth ei geffyl. Ond mewn gwirionedd, Eisteddfod Gwyddelwern yn y flwyddyn 1991 fu'n ysgogiad i Olwen ail-gydio o ddifrif yn ei dawn fel arlunydd. Gwelodd lun o ddafad ac oen dan y pennawd 'Y llymaid cyntaf' a wnaed gan Keith Bowen, ei hoff arlunydd, yn y llyfr 'Bugail Eryri' a gyhoeddwyd ym 1991. Aeth Olwen ati i ail-gynhyrchu'r llun drwy gyfrwng pastelau ac ennill yn yr eisteddfod.
Wrth iddi ddatblygu'i dawn dros y blynyddoedd, cred Olwen bod ei lluniau wedi dod yn fwy byw. Mae'i hobi hefyd wedi dod ag amrywiaeth i fywyd y fferm, gan fod galw ar Owen y gŵr o bryd i'w gilydd i lwytho'r 'pick-up' gyda'r lluniau, byrddau a stondinau a gyrru i sawl arddangosfa. Dan gyfarwyddyd Siân Parry dechreuodd Olwen arddangos ei gwaith ym Marchnad y Ffermwyr yng Nghorwen, ac sydd bellach wedi symud i fferm y Rhug. Eleni bydd ei gwaith ar werth yn y farchnad ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, ar gyfer y rhai sy'n siopa at y Nadolig. Bu Olwen hefyd yn rhan o'r farchnad binc yn y Rhug i godi arian at ymchwil i gancr y fron.
Fel rhan o weithgaredd a gefnogwyd gan Gadwyn Clwyd gydag arian Amcan 2, aeth nifer o grefftwyr/busnesau bychain draw i Tullow yn ne-ddwyrain Iwerddon i arddangos eu gwaith ym Mhencampwriaeth Aredig y Byd. Bu'n arddangos ei gwaith yn gyson yn sioe flynyddol Sir Feirionnydd. Ar hyn o bryd mae hi ar fin cwblhau llun pastel o hwrdd a welodd yn Sioe Cerrig.
|