Braint o'r mwyaf oedd cael cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru o'r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, a'r arfer hwn eleni yn dathlu 80 mlynedd ers anfon y neges cyntaf yn 么l ym 1922. Mewn dinas hardd a thywydd bendigedig cawsom gyfle i fwynhau cwmni'r Aelod Seneddol Ewropeaidd a'n cynrychiolwyr o Gymru a chawsom eu gweld wrth eu gwaith. Roedd ein rhaglen am y ddeuddydd yn llawn a chychwynnodd pawb ar y daith fore Llun yn eiddgar iawn i gael gweld dinas newydd a Chymry blaenllaw yn ein cynrychioli yno. Ymweld 芒'r senedd Bore dydd Mawrth cafwyd derbyniad yn y Senedd a chyflwynodd Cai Jones, Gwenllian Sion, Ela Cemyw a Sioned Roberts, oll yn ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst, Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd i Eurig Wyn ASE a Jill Evans ASE, Desmond Clifford, Y Cynulliad ym Mrwsel, Nia Lewis, Canolfan Ewropeaidd Cymru a Haf Elgar, ymchwilydd Jill Evans. Derbyniodd pawb boster Iliwgar, mewn ffram, o'r neges eleni ac yna aeth pawb i ymweld 芒'r Senedd yr nghwmni Jill Evans. Yn y prynhawn aeth pawb i weld y Ganolfan Ewropeaidd Gymreig yng nghwmni Nia Lewis a Peredur John. Cafwyd trafodaethau brwd iawn ynglyn 芒'r ewro a'r Undeb Ewropeaidd a r么l Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Roedd y disgyblion yn frwdfrydig iawn yn eu trafodaethau. Dywed Peredur John fod y grwp ifanc "wedi cyfrannu mewn ffordd aeddfed a rhaid i mi eu llongyfarch ar eu parodrwydd i fynegi barn ar faterion mae llawer o bobl yn dewis osgoi." Darllen y neges Ymlaen wedyn i dderbyniad gyda'r Comisiynydd Reding. Darllenwyd y neges i'r Comisiynydd ac fe fu iddi hi longyfarch y disgyblion ar eu gwaith a phwysleisio'r pwysigrwydd o anfon neges heddwch yr Urdd yn flynyddol. Pwysleisiodd hefyd y pwysigrwydd o ddysgu am ddiwylliannau ein gilydd o fewn Ewrop er mwyn cryfhau cyfeillgarwch rhwng y Cenhedloedd. Bu ein hymweliad dydd Mercher 芒 Chanolfan Ddarlledu Rhyngwladol y 大象传媒 yng nghwmni lolo ap Dafydd ac fe soniodd am ei waith fel Gohebydd Newyddion Ewrop. Recordiwyd y neges yn y ganolfan i'w darlledu adre yng Nghymru a gwnaeth y disgyblion eu gwaith yn raenus tu hwnt trwy gydol yr ymweliad yn raenus a dod 芒 chlod ac anrhydedd nid yn unig i Ysgol Dyffryn Conwy ond i'r Urdd a Chymorth Cristnogol ac yn wir i Gymru.
|