Ar achlysur arbennig pan dderbyniodd Morfudd Vaughan Evans Dlws T. H. Parry-Williams yn Eisteddfod Meifod. Dyma'r tripiau i Meifod wedi darfod a ninnau fel ardal yn cael cyfle i werthfawrogi holl lwyddiannau'r Wyl. Un seremoni oedd yn agos at ein calonnau ni yma ym mro'r Bedol oedd cyflwyno Medal Syr T. H. Parry-Williams i Morfudd Vaughan Evans. Dyma bicio draw i Llys Cerdd i gael holi Morfudd am y dydd ...
Sut mae rhywun yn cael ei ystyried ar gyfer y fedal?
Wel mae rhywun yn eich enwebu chi. Dwi'n meddwl fod Robat Arwyn, Sian Eryddon, John a Gwenda Owen yn gyfrifol am yr enwebu....
A phryd gawsoch chi wybod eich bod wedi bod yn llwyddiannus?
Mis Ebrill. Mi ffoniodd Elfed Roberts yn syth ar 么l i'r Pwyllgor gyfarfod. Mi dd'wedodd o fod na 21 o geisiadau cofia! Ges i gymaint o sioc mod i wedi ennill!
Dani i gyd yn gwybod mai chi YW C么r Rhuthun, soniwch tipyn am y pethau eraill sydd wedi bod yn eich cadw chi'n brysur.
Wel dwi di bod yn rhoi gwersi piano. Dwi hefyd yn dysgu canu - ac yn mwynhau hynny'n fawr iawn. Mae gen i rai sy'n dod yn rheolaidd, ac mi fyddai'n rhoi help llaw os ydi rhywun yn gofyn adeg y Steddfodau. Dydi rywun ddim yn hoffi gwrthod neb yn nac ydi?
Felly sut hwyl gawsoch chi ddiwrnod y seremoni?
Da iawn. Ddaru ni fynd i stafell ymgynnull Cyngor yr Eisteddfod yng nghefn y llwyfan i ddechre. Yna dyma ni i gyd yn cerdded ar y llwyfan.
Oeddech chi'n nerfus?
Nag oeddwn! Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl a deud y gwir. Er mod i wedi gweld y seremoni yn y gorffennol, doedd rhywun ddim wedi cymryd digon o sylw ar bryd oedd rywun i fod i sefyll ac eistedd. Roedd Gwynn ap Gwilym yn dweud cyn cychwyn i'r llwyfan "Cofiwch wenu!" Doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio rhywsut, roeddwn i'n trio meddwl be oedd yn mynd i ddigwydd nesaf.
Gawsoch chi fraw wrth weld y C么r yn cerdded ar y llwyfan?
Wel dol! Sioc fawr. Yn rhyfedd iawn, ro'n i wedi gweld rhai ohonyn nhw ar y maes, a rheini wedi rhyw droi i ffwrdd pan godes i'n llaw arnyn nhw. Ro'n i'n methu dallt beth oedd yn bod! Dybed o'n i wedi pechu neu rywbeth? Ond wrth gwrs mi weles i wedyn!
A doedd gennych chi ddim syniad eu bod nhw'n mynd i ganu i chi?
Nag oedd wir! Deud y gwir, mi wnes i feddwl tybed fydde Rhys Meirion yn rhoi datganiad, ond wnes i edrych ar y piano, a doedd na ddim copi yno. Ond nag oedd, doedd gen i ddim syniad y bydde nhw yno! Ges i ffit felen o'u gweld nhw'n cerdded ar y llwyfan.
Mi welwyd Penri yn astudio'r fedal yn fanwl iawn ar S4C digidol!
Wel na - be ddigwyddodd oedd hyn. Roedd y fedal wedi ei roi mewn rhyw casing, ond doedd o ddim yn ffitio. Mi sylwodd Penri fod y fedal wedi llithro i ffwrdd a disgyn ar lawr! Trio ei osod yn 么l oedd o pan aeth y camera arno fo! Roedd y rhuban a'r casing yn cael eu rhoi yn 么l ar ddiwedd y seremoni.
Rydach chi'n amlwg wedi mwynhau eich hun.
Do wir. Ges i wefr eithriadol - y seremoni yn fythgofiadwy. Mi ddaeth na rhywun ata i wedyn a dweud "dw i di bod mewn sawl un o'r rhain, ond dyma'r un mwyaf lliwgar eto."
A dweud y gwir, mi hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i bawb ddaeth i nghefnogi i ar bnawn dydd Mawrth yr Eisteddfod. Diolch hefyd am yr holl gardiau, llythyrau, a galwadau ff么n a'r blodau hardd. Ac yn bennaf, diolch i Robat Arwyn, Rhys Meirion, ac aelodau'r C么r am wneud y seremoni yn un bythgofiadwy. Mi ddywedodd rhywun wedyn "it was worth coming just to hear the singing".
Wel diolch yn fawr i chi Morfudd...
Cyn i ti fynd, un peth bach doniol - roedd cystadleuaeth C么r Pensiynwyr ar 么l y seremoni. Glywes i fod rhywun wedi gofyn i rai o G么r Rhuthun, "Hefo pa g么r dach chi?"
A dyna Morfudd yn morio chwerthin yn ei ffordd ddihafal ei hun!! Unwaith eto, llongyfarchiadau mawr i chi Morfudd, a diolch am y croeso.
Mae yna englyn i Morfudd gan J. Wilson Jones yn rhifyn Medi o Y Bedol.