Ryw flwyddyn ynghynt, daeth nifer o bobl leol at ei gilydd i drafod y syniad o gynnig gwyliau i farchogwyr ceffylau. Wedi iddynt edrych ar anghenion y farchnad dwristaidd, cafwyd fod tua 82,000 o geffylau gyda pherchnogion o fewn cwmpas o 75 milltir i'r cynllun, a bod posibilrwydd mawr i ddatblygu'r fenter. Felly dyma sefydlu'r cwmni 'Cymru ar Geffyl'. Cafwyd cyngor ar ddatblygu cynllun busnes ac ar farchnata, hyfforddiant ar gyfrifoldebau cyfarwyddo cwmni, a chyngor ar faterion cyfreithiol. Mae'r gwyliau yn cynnig dewis o ddilyn amrywiol lwybrau rhwng 10 a 35 milltir i farchogwyr, ynghyd ag arweinlyfrau i ddynodi'r siwrnai yn glir.
Mae dau brif lwybr.
Lleolir un yng ngogledd Sir Ddinbych a Sir y Fflint gerllaw sef llwybr 'Y Caerau a llwybrau'r Porthmyn' ar Fryniau Clwyd. Lleolir yr ail Iwybr sef llwybr 'Y Ffriddoedd a'r Mynyddoedd' yn ardal Corwen ac Uwchaled. Rhydd y ddau lwybr gynnig arbennig i fwynhau harddwch a thirlun cefn gwlad wrth farchogaeth.
Gall y gwyliau cyfan gael ei drefnu drosoch gyda llety dros nos i chi a'r ceffyl, prydau bwyd a phorfa a stabl i'r ceffyl. Ar hyn o bryd mae 'na 13 o fannau aros dros nos. Yn lIeol er enghraifft, cewch lety gydag Olwen Rowlands yn Llandyrnog, Iona Pierce, Plas Dolben, Llangynhafal (rhif ffon 01824 790327), Sioned Jones, Ty'n y Wern, Dinmael (rhif ffon 01490460419), neu Jenni Miller yn Llangwm. Diolch i Iona a Sioned am y wybodaeth uchod, a hefyd i Cadwyn Clwyd am eu cefnogaeth i'r fenter anturus hon.
Os oes rhai yn dymuno cyfranogi yn y fenter, er enghraifft ffermwyr sy'n awyddus i arallgyfeirio, neu ryw rai sydd am gynnig gwely a brecwast, stablau, tir pori, ac yn y blaen, mae croeso iddynt gysylltu a'r fenter.
Dyma ychydig o hanes gan Sioned am ei diddordeb hi ym myd y ceffylau:
"Ers yn blentyn ifanc, bu gen i ddiddordeb mawr ym myd ceffylau. Treuliais oriau lawer adre a gyda Wncl John Hywel yn Perthillwydion, Cerrig, yn trin a thrafod ceffylau a chrwydro yn ei gwmni dros ogledd a chanolbarth Cymru i arwerthiannau a sioeau ceffylau. Dysgais lawer ganddo fo a'i debyg am ferlod mynydd a chobiau Cymreig yn bennaf, a breuddwydiais gael rhesaid o stablau a chadw ceffylau ryw ddydd.
Doedd dim siawns 'Mul yn y Grand National' i wneud hyn tra'r oedd Dad 'in charge' gan nad oedd o megis lIawer i ffarmwr arall yn 'ffan' mawr ohonynt. Er i mi roi'r gorau i gadw merlod fy hun am nifer o flynyddoedd, roedd y diddordeb yn dal yna, a rhyw ysfa yn bodoli i ddechrau menter newydd ym myd ceffylau.
Daeth cyfle maes o law i wneud hyn, ac felly y bu hi, gan fwrw 'mlaen i baratoi cynllun busnes gan edrych ar anghenion y farchnad, a phenderfynu mynd amdani ac ail-gynllunio adeilad amaethyddol modern a oedd eisoes ar gael. Cafwyd caniatad y Cyngor i newid defnydd rhan o'r adeilad a chafwyd cymorth cwmni lleol i ddyfeisio stablau pwrpasol a fyddai'n hwylus.
Penderfynwyd dechrau ar raddfa fechan iawn i weld sut fyddai pethau'n datblygu, ond erbyn hyn mae gryn alw am wasanaeth lifrai (livery) pwrpasol yn lIeol, gan fod merlota a magu ceffylau yn ddiddordeb sydd ar gynnydd. Felly, o ganlyniad, rydym wedi gosod rhagor o stablau fel y bwriadwyd yn ycynllun gwreiddiol ddwy flynedd yn ol."
Brian Roberts