Pob bore dwi'n mynd ar gefn motobeic i ddysgu Saesneg i blant o 2 i 4 oed i un o'r 16 Canolfan Gofal ac yna gyda'r nos i un o'r 19 Ysgol Nos i blant o 6 i 16.
Mae yma 2000 o blant a amddifadwyd gan y tsunami.
Plant bach hyfryd ydyn nhw i gyd ac er iddynt gael eu trawmateiddio gan y drychineb maent yn naturiol hapus a digymell.
Yn anffodus, trawodd y tsunami hofelau bregus y ffermwyr a'r pysgotwyr tlawd ar yr arfordir. Digwyddodd ar ddiwrnod o wyliau pan oedd y teuluoedd yn mwynhau diwrnod allan ar y traeth.
Mae'r cofgolofnau a godwyd yn fy atgoffa o frwydr y Somme yn Ffrainc neu Aberfan, mil gwaith trosodd.
Yn ffodus, mae'r bobl yn awyddus i gario ymlaen gyda bywyd, gan ganolbwyntio ar y plant sydd yn dal yn fyw. Maent yn gyfeillgar, ac wastad yn barod i gael sgwrs efo fi ar y stryd.
Erbyn hyn, bu diwedd ar y cyfnod cyntaf 0 ailgartrefu pobl mewn llochesi dros dro.
Mae'r pysgotwyr yn awr wedi cael cychod newydd gan fudiadau cardod byd eang.
Mae yn fraint i mi gael cyfrannu tuag at y cyfnod nesaf sef adferiad cymdeithasol yn y cymunedau trawmatedig yma.
Mae La Salle Kadalisai yn trefnu llawer o raglenni: addysg (lle dwi yn gweithio), hyfforddi'r ifanc, grwpiau hunan help i'r merched, cynghori ac iechyd.
Bydd y Brawd Uvari, gŵr Tamil ifanc a chyfarwyddwr y prosiect, yn siarad am ei waith yn Awelon, Rhuthun am 7.30, nos lau 10 Mai. Peidiwch a'i golli!
Mae'r Sefydliad ar y funud yn adeiladu canolfan ar 10 acer o dir tu allan i'r dref ac sydd yn cael ei ariannu fer NGO ("Non Governmental Organisation") gan fudiadau elusennol ac enwebwyr.
Rwyf wedi dechrau ymdopi, byw yma mewn lle mae yn 362C pob dydd ac o leiaf 23°C y nos.
Mae'r strydoedd yn byrlymu ddydd a nos gyda phobl, bysiau, ceir, beiciau, cerbydau, bystuch, gwartheg a geifr yn crwydro drifflith drafflith.
Mae fy nhaith bob bore i'r jyngl neu i ganol y wlad gel taith nôl i'r amser Beiblaidd.
Cannoedd yn gweithio yn y caeau, yn torri y reis gyda chryman, yn dyrnu gyda llaw, yn sychu y gwair ar y ffyrdd ac yn cerdded nôl adre yn y tywyllwch.
Mae popeth yn andros o rad - yr unig ffordd mae'r tlawd yn gallu byw.
Roedd trip 20 milltir ar fws y penwythnos diwetha' yn 6 rupee (8c), a heirio tuk- tuk am hanner awr yn 75 rupee (90c).
Cefais bar o drowsus a chrys am lai na £10 a cwtogodd y teiliwr o am 10 rupee (12c.).
Yfory mae yn ddydd Gŵyl Dewi ac mi fydda i yn dathlu gyda chacen dwi wedi ei archebu elo "Cymru am Byth" arni. Yr unig un yn India!
Ym mis Mai mi fydda i yn ôl i wneud rownd y Bedol ond bydda i yn siŵr o ddychwelyd i India ym mis Chwefror, i fwynhau tywydd canoldirol a diwylliant hudolus ac egsotig.