Wedi graddio, penderfynodd John Arthur o Wyddelwern gyflawn ei uchelgais a theithio i Rwsia. Ond pam Rwsia?Wedi graddio ym Mhrifysgol Staffordshire, roedd pawb yn fy mhen yn dweud, "Rhaid i ti setlo lawr a chael job dda rwan, John Arthur!" Ond ddim gwaith a setlo oedd ar fy meddwl ond cyflawni fy uchelgais sef "cerdded y sgw芒r coch". "Pam Rwsia?" gofynnodd pawb. "Sdim ishio i ti fynd i'r hen Rwsia ne!" oedd ymateb Nain a llawer o'm teulu!
Ers blynyddoedd mae diddordeb mawr iawn gennyf yn iaith, pobl, hanes, adeiladau a diwylliant Rwsia. Darllenais lawer am y wlad arbennig hon a phenderfynais ddechrau gwersi Rwsieg i gael dysgu'r iaith. Y peth cyntaf oedd i adnabod y llythrennau mae'r wyddor yn wahanol iawn i'n un ni - yn llythrennol a'r synau yn wahanol.
Ar 么l yr holl gynilo, trefnu visa a thocynnau teithio fe gychwynnais ar fy nhaith o faes awyr Manceinion gan stopio yn Frankfurt yn yr Almaen am awr. Yna ymlaen a glanio yn 'Sheremetyeyo', Moscow. Doedd neb yn siarad Saesneg, na'r un arwydd yn Saesneg ac felly o'r diwedd cael mynd drwy'r "passport control", chwilio am dacsis ac edrych am westy.
"Priviet Kak-dyela Mozhna Taksee", dywedais wrth ddyn oedd yn sefyll wrth dacsi, ac yn syth fe atebodd yn 么l gan ysgwyd fy llaw.
Mentro ar y metro
Roeddwn mor falch fy mod wedi gwisgo fy ngh么t fawr wlan ddu oherwydd sylwais fod pawb yn gwisgo du ac hefyd roedd y tymheredd yn -12 a phob man yn eira trwchus, roedd eisiau rhywbeth cynnes! Roedd gwesty "Ukraina" yn anferthol ac yn foethus iawn gyda phobl bwysig yn aros yno (un o saith adeiladau Stalin) ac mae 1,016 o ystafelloedd yno.
Treuliais ddyddiau yn cerdded o amgylch strydoedd o eira Moscow, gan fynd ar y metro bendigedig hefyd! Dyma'r ffordd mwya' effeithiol a chrand rwyf erioed wedi trafeilio arno. Gwelais ryfeddodau o'r Kremlin, Boishoi, amgueddfa Pushkin, eglwysi ac adeiladau bendigedig, y Tsarbell i'r strydoedd a'r cytiau pren ble mae cwrw, bwyd, a.y.y.b. yn cael eu gwerthu gan y tlawd.
Roeddwn wrth fy modd yn bwyta a rhannu bwrdd, yn gwrando ar straeon a hanes gyda'r bobl sydd 芒 bywyd mor wahanol i ni yng Nghymru. Ond yr olygfa brydfertha fydd yn fy nghof am byth fydd Eglwys Gadeiriol Sant Basil yn yr eira wedi eu goleuo yn y nos. Bendigedig! Symud ymlaen wedyn a thrafeilio ar y tr锚n drwy'r nos, ac roedd yn rhaid i mi rannu cerbyd cysgu gyda tri Rwsiad. Erbyn cyrraedd St. Petersburg bore drannoeth roeddwn wedi gwneud tri chyfaill newydd - buont yn garedig iawn wrthyf gan rannu bwyd, diod a stor茂au 芒 mi.
Teimlwn yn fwy hyderus erbyn hyn yn siarad yr iaith - yn enwedig pan ofynnwyd i mi os roeddwn yn dod o ran ucha' o Siberia! Soniais wrthynt am Gymru, ond nid oeddynt yn gwybod am y wlad.
Trysorau byd celf
Treuliais amser braf eto yma yn St. Petersburg wrth ymweld 芒'r "Winter Palace" hardd, Oriel yr Hermitage a llawer o adeiladau diddorol a phrydferth. Ond eto fy hoff beth oedd cerdded y strydoedd a'r caffis a gweld a chyfarfod y bobol. Mae llawer o grandrwydd yma ond hefyd llawer o bobl dlawd yn dal i fyw yr hen ffordd.
Un tristwch mawr gennyf i oedd gweld fod McDonalds wedi cyrraedd yno, a'r ail dristwch oedd gweld fod fy waled yn fain ac felly roedd yn rhaid troi yn 么l am adre' -a phenderfynu wrth deithio ar yr awyren fy mod eisiau dod yn 么l i Rwsia.
Bum yn 么l eto yn Moscow mis diwethaf ac yn falch o fod wedi gwneud ffrindiau yno. Cefais groeso mawr yn eu cartref a chael cyfle i rannu eu bwrdd a'u bwyd traddodiadol. Edrychaf ymlaen at fynd yn 么l yna mis Gorffennaf gan obeithio gweithio allan mewn ysgolion a chylchoedd ieuenctid Moscow (gyda chyfrifiaduron).
Rwyf yn lwcus iawn wedi cael teithio i ambell wlad ond does un man yn curo Rwsia gen i. Fel maent yn dweud hwyl fawr yn Rwsia - "Paka Paka".
John Arthur, Gwyddelwern.