Ben bore Sul Chwefror 15 ymgasglodd criw o 25 i gychwyn eu taith i dref Altenmarkt yng nghysgod Alpau Awstria. Roedd rhai yn sg茂wyr profiadol, ar eu trydydd taith, ac eraill yn hollol ddibrofiad, heb weld cymaint o eira o'r blaen. Roedd rhai wedi bod yn cael gwersi ar lethrau'r Gogarth yn Llandudno a nifer wedi bod yn prynu'r offer angenrheidiol i sicrhau eu bod yn sych, cynnes ac yn ffasiynol ar y piste.
Gwesty teuluol oedd yn aros amdanom sef Gasthof Markterwirt yn nhref fach Altenmarkt sydd wedi estyn croeso cynnes i sgiwyr Rhuthun ers dwy flynedd. Wedi cyrraedd y dref, y dasg cyntaf oedd dewis a ffitio ein esgidiau sgio a sgis. Esgidiau a sgis digon cyffredin a roddwyd i'r rhan fwyaf ohonom ond cafodd ambell i sgiwr, oedd yn amlwg yn edrych yn fwy abl na'r gweddill, driniaeth arbennig. Dewiswyd p芒r o esgidiau aur llachar, newydd sbon i Emlyn Hughes er mwyn sicrhau ei fod yn cael sylw teilwng ar y llethr.
Wedi noson o gwsg a brecwast, fe gychwynnodd y criw am ganolfan sgio Zauchensee, taith bws 20 munud a oedd yn dringo uchder o 500m. Canolfan gymharol newydd yw Zauchensee a gafodd ei chreu rhyw 10 mlynedd yn 么l pan daeth tri ffarmwr at ei gilydd i arallgyfeirio. Fe dalodd eu menter ar ei ganfed gan bod Zauchensee erbyn hyn yn resort llwyddiannus yn cynnwys 16 lifft sgio a nifer o lwybrau ar gyfer sgiwyr o bob safon.
Mae'r copa uchaf, Gamskogel, yn esgyn 2188m a buom yn lwcus cael tywydd at hinsawdd perffaith ar gyfer sgio trwy gydol yr wythnos. Yn ystod diwrnodau cyntaf y gwyliau, gwahanodd pawb yn 么l eu gallu. Aeth rhai am wersi er mwyn dysgu'r grefft.
Arweinydd gwers sgio yw athro cyhyrog, hyderus gyda lliw haul, dyn sy'n amlwg wedi ei eni 芒 sgis am ei draed (paid cyffroi SPG!), yn tywys ei ddosbarth petrusgar i lawr llethr gan weiddi anogaeth megis 'Sehr gut', 'Schnell' a 'Bend zi knees' (Dim mor hawdd pan roeddwn yn fflat ar fy mhen 么l ar lawr - GMI). Aeth rhai ar y llethrau llai serth er mwyn naddu eu sgiliau a chynyddu eu hyder tra bod y rhai galluog yn ei heglu hi'n syth am y llethrau du.
Mwynhau'r apres-ski
Erbyn y trydydd diwrnod, roedd y rhan fwyaf yn ddigon abl i ymuno mewn gwibdaith sgio dros y mynydd i'r dyffryn nesaf sef Flachauwink. Ar 么l bore caled o sgio, a chymorth a chefnogaeth gan Ynyr Roberts i'n tywys i lawr llethr arbennig o serth, cafwyd cinio yn un o'r lodges bwyd ar ochr y mynydd. Gulaschsuppe oedd y dewis poblogaidd, cawl tywyll gyda digon o sbeis i wresogi'r corff. Ar 么l mwy o sgio, 骋濒眉丑飞别颈苍 i bawb amser te; gwin coch cynnes gyda amryw o sbeisis eto, er mwyn cynhesu a chynyddu'r hyder ar gyfer y sesiwn olaf o sgio.
Mae'r apres-ski yn rhan hanfodol o unrhyw wyliau sgio. Cyfle i adrodd straeon a chymharu anafiadau y diwrnod dros swper a pheint ym mar y gwesty. Roedd diwrnod cyfan allan yn awyr iach yr alpau yn flinedig a'r rhan fwyaf yn barod am y gwely yn fuan wedi swper. Nid felly rhai o'r criw ifanc, ac ifanc eu meddwl. Roedden nhw i'w gweld tan oriau m芒n y bore yn y clwb nos lleol,'Heaven and Hell' yn dawnsio i ganeuon Tom Jones. Uchafbwynt yr wythnos oedd y ras flynyddol rhwng Alun Edwards, yn cynrychioli'r to hyn, a Seren Prys Jones, disgybl yn ysgol Penbarras. Roedd Seren yn gobeithio cadw ei record ddi-guro ond roedd Alun wedi bod yn ymarfer drwy'r wythnos ac yn benderfynol o guro am y tro cyntaf.
Ar y pnawn olaf, ymgasglodd pawb ar y copa i wylio'r ras. Aeth Alun i ffwrdd fel mellten, ond yn fuan roedd Seren wedi ei ddal. Roedd hi'n dipyn o olygfa, Alun a Seren yn mynd fel fflamia' lawr y mynydd a'r ugain aelod arall o glwb sg茂o Rhuthun yn gwneud eu gorau i'w dal. Cael a chael oedd hi wrth i'r ddau wibio am y llinell ond gydag un ymdrech arbennig. Seren a darfu unwaith eto gyda Alun yn dynn ar ei sodlau.
Mae ein diolch yn fawr i Alun Evans, Judith Prys Jones a nifer o'r aelodau eraill a fu mor brysur yn trefnu taith flynyddol Clwb Sgio Rhuthun. Mae ein cofion yn mynd i Clwyd Roberts a fethodd y trip eleni oherwydd salwch, gwellhad buan iddo. Braf yw cael adrodd na chafwyd yr un anaf ar y llethrau, er bod rhai wedi cael pen tost wrth dderbyn bil y bar ar ddiwedd yr wythnos.