Cafodd trigolion Edeyrnion y cyfle i gyfarfod â swyddogion a chynghorwyr Sir Ddinbych nos Iau, Ebrill 8, ynglyn â phenderfyniad y Cyngor i gau'r Pafiliwn yn barhaol.
Yn cadeirio'r cyfarfod oedd Huw Jones, Cynghorydd Sir Corwen. Ar ran y Cyngor, esboniodd Tom Price, Swyddog Gwasanaethau Adeiladu'r Cyngor, i'r gynulleidfa luosog oedd wedi dod i ddangos eu cefnogaeth i'r Pafiliwn, y rhesymau pam bu'n rhaid ei gau. Roedd cyfle i bobl ofyn cwestiynau iddo ef a Jamie Groves, Pennaeth Gwasanaethau Hamdden y Sir.
Cyfeiriodd sawl un at y diffyg gwaith angenrheidiol ar y Pafiliwn dros y blynyddoedd, ac yn wir y diffyg diddordeb yng Nghorwen a'r ardal yn gyffredinol gan y Cyngor Sir. Roedd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor, ynghyd â'r swyddogion eraill, yn cydnabod nad oedd digon wedi cael ei wneud gan y Sir i edrych ar ôl yr adeilad. Trafodwyd y ffordd ymlaen ynglyn â'r Pafiliwn, gyda Siân Parry o Fforwm Pafiliwn Corwen yn siarad ar ran yr aelodau. Pwysleisiodd mai ar gyfer cynnal gweithgareddau diwylliannol y prynwyd yr adeilad yn wreiddiol, a diwylliant Cymreig yn bennaf, ac y dylid cofio hynny wrth gynllunio am y dyfodol.
Cyflwynwyd cynllun gan Esmor Davies, un o aelodau'r Fforwm, oedd yn cynnwys ail-adeiladu'r Pafiliwn i'w faint gwreiddiol, gan ddefnyddio rhai o ddeunyddiau gwreiddiol y Pafiliwn fel y llwyfan, sydd mewn cyflwr da iawn. Pasiwyd gan y cyhoedd oedd yn bresennol y dylid edrych ymhellach ar y cynllun yma.
Penderfynwyd cynnal cyfarfod eto o fewn y mis i drafod ymhellach, ynghyd â'r syniad a gafwyd o'r llawr ynglyn â chysylltu â swyddogion yr unig Bafiliwn arall yng Nghymru, sef Pafiliwn Pontrhydfendigaid. Byddai'n fuddiol clywed ganddynt sut y bu iddynt fynd ati i gael grantiau er mwyn ail ddatblygu'r Pafiliwn a agorwyd o'r newydd yn 2006.
Os oes unrhyw un nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod ar Ebrill 8 ac yn dymuno dod i'r cyfarfod nesaf, dylid cysylltu â Huw Jones, ein Cynghorydd Sir.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |