大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Rhian Huws Williams, Myfoniog Portread o Rhian Huws Williams, Myfoniog
Gyrfa gwaith cymdeithasol un o Lannefydd sydd bellach yng Nghaerdydd.
Ym mhortread y Bedol ym Mehefin, penderfynodd Eleri Williams ddewis Rhian Huws Williams, neu Rhian Myfoniog i'r rhan helaeth ohonom, i gael ei holi y mis hwn. Gareth Watson fu'n cael sgwrs efo Rhian. Eleri Williams a'ch enwebodd. Sut ydych chi'n ei hadnabod?
Rydyn ni wedi wedi bod yn ffrindie' da iawn ers blynyddoedd. Roedd y ddwy ohonom yn Rhuthun ar 么l i ni adael coleg a dechrau gweithio ac roedd y ddwy ohonom yn gyd altos yng ngh么r Rhuthun. Mae'n debyg mai drwy Nerys Hafod y gwnaethom ni gyfarfod gyntaf. Ymhle mae eich gwreiddiau ac ymhle gawsoch eich addysg?
Cefais fy magu ar fferm yn Llannefydd. Yno mae ngwreiddiau i yn sicr. Dyna lle fyddai yn ei alw yn 'adre' o hyd. Cefais fy addysg gynradd yn ysgol Llannefydd ac wedyn yn Ysgol Glan Clwyd. Mae gen i atgofion braf iawn o'r ddwy ysgol. A fedrwch chi roi crynodeb o'ch gyrfa hyd yn hyn i ni?
Ar 么l graddio ym Mhrifysgol Bangor cefais swydd fel gweithiwr cymdeithasol, ac yn ffodus iawn wedyn fod Cyngor Sir Clwyd wedi talu am fy hyfforddiant proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol ac hefyd gradd uwch mewn gwaith cymdeithasol. Gweithiais felly i ddechrau fel gweithiwr cymdeithasol, wedyn fel hyfforddwr gweithwyr cymdeithasol yng Nghlwyd. Cefais swydd wedyn gyda'r corff cenedlaethol oedd 芒'r cyfrifoldeb am hyfforddiant proffesiynol gwaith cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig. Roedd eu swyddfa ym Mryste gyda rhyw fath o is swyddfa yng Nghaerdydd. Un o'm prif gyfrifoldebau oedd datblygu Polisi laith ar eu cyfer. Roedd hyn yn arloesol iawn ar y pryd ym 1988. Agorwyd Swyddfa go iawn yng Nghaerdydd ym 1991. Bum yn Bennaeth y Swyddfa yng Nghymru nes i'r llywodraeth ddod 芒'r asiantaeth i ben yn 2001. Cefais fy mhenodi ym 2001 yn Brif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru sef corff newydd sbon wedi ei sefydlu a'i ariannu gan y Cynulliad i hyrwyddo safon uchel y 70,000 o weithwyr gofal sy'n gweithio yng Nghymru. Rydan ni newydd gyhoeddi C么d Ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal a dechrau cofrestru gweithwyr cymdeithasol. Ers faint ydach chi'n byw yn y De?
Ers 1988. Picio yma i weithio am rhyw dair blynedd oedd y bwriad ond dyma fi yn dal yma! A oes fyth awydd arnoch i symud yn 么l i'r Gogledd?
Oes. Dwi yn dod adre' yn gyson ac mae'r dynfa yn dal yno. Dwi ddim yn gyfforddus efo'r canoli yng Nghaerdydd a gobeithio bydd modd i asiantaethau sefydlu mewn rhannau eraill o Gymru yn y dyfodol fel bod pobl yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau. Roeddech yn aelod o G么r Rhuthun. Oes hiraeth arnoch chi?
Mwynhais fy amser gyda 'r c么r yn fawr iawn a rhoddodd Morfudd lawer o gyfleoedd imi a llawer o anogaeth hefyd. Mae'n g么r spesial iawn a dwi'n dal i deimlo'n agos iawn at y C么r ac yn closio atyn nhw! Mae'n g么r sy' wedi cynnal safon ardderchog yn gyson dros y blynyddoedd ac eto'n g么r naturiol a diymhongar. Mae'r hiraeth falle cymaint am y cyfnod - pan oedden ni i gyd yn ifanc a ff么l!!! Ydach chi'n canu gyda ch么r yn y de?
Ydw gyda Ch么r Merched Cana dan arweinyddiaeth Delyth Medi. Enillodd y C么r yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nh欧 Ddewi llynedd (er rhaid dweud nad oedden i efo nhw!) Rydan ni yn cael lot o hwyl ac yn trefnu taith i Sbaen Pasg nesaf. Unrhyw ddiddordebau eraill?
Rydw i'n perthyn i Glwb Mynydda Cymru ac yn cerdded mynyddoedd bob cyfle gaf i. Cymerais ran yn ddiweddar mewn her ar gyfer T欧 Hafan - dringo'r Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan mewn diwrnod. Roedd yn brofiad gwerth chweil. Y gamp i ni gwblhau, ond roedd eraill yn ei rhedeg - anodd dychmygu gwneud hynny. Llynedd bum yn cerdded Alpau Juliene ac i ben mynydd Triglav yn Slovania. Rydw i'n aelod o gampfa ac yn mynd i ddosbarthiadau circuits ac yn rhedeg rhywfaint o hyd. Gan mod i yn byw heb fod ymhell o Barc y Rhath rydw i yn mynd 芒'r ci am dro bob bore ac felly yn gallu mwynhau'r tymhorau a'r byd natur ar y llyn. Pwy hoffech ei enwebu ar gyfer y Portread nesaf?
Nerys Owen, Bryn Caredig, Rhewl (Nerys Hafod). Diolch yn fawr iawn am eich amser Rhian a phob lwc i'r dyfodol.
Gareth Watson


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy