Ers chwe mis mae cwmni teuluol "Costume Company" wedi agor siop ar y brif stryd, gerllaw yr hen stesiwn, yn cynnig gwasanaeth priodasol canoloesol.Bu'r cwmni yn llogi a gwerthu gwisgoedd ar gyfer gwahanol achlysuron arbennig ers tuag ugain mlynedd o ysgubor ar eu tir uwchlaw Glanrafon, ger Corwen. Mae'r cwmni yn cael ei redeg gan dair cenhedlaeth o'r un teulu - y nain, (Jean Roberts), y fam, (Trisha Lightfoot) a'r ferch, (Gill Phillips). Dechreuodd y fenter yn fuan ar ol i'r teulu symud i fyw i'r ardal o Lerpwl yn 1985 a hwythau wedi diflasu ar fyw mewn dinas ac eisiau mwynhau bywyd cefn gwlad.
Wedi gadael Ysgol y Berwyn, Y Bala, ymunodd Gill yn y fenter deuluol a hi fu'n rhoi hanes y busnes i'r Bedol.
Dros y blynyddoedd mae'r diddordeb mewn priodasau canoloesol wedi datblygu a bellach bydd y cwmni yn gyfrifol am baratoi gwisgoedd ar gyfer 40 briodasau y flwyddyn. Maent yn barod i drafeilio i unryw ran o Brydain, a'r drefn yw eu bod yn mynd a'r gwisgoedd i'r lle y cynhelir y briodas, yn gwisgo'r priodferch a'r briodfab yn ogystal a'r gwesteion i gyd. Yna ar ddiwedd y dathliadau byddant yn derbyn y gwisgoedd yn ol, yn eu pacio a dod a nhw nol i'r siop yng Nghorwen.
Cynllunio'r Wisg
Mae modd prynu neu llogi'r gwisgoedd a bydd gwisg y gwesteion yn costio tua 拢30 tra bydd pris gwisgoedd y briodferch a'r priodfab yn dibynnu ar faint o oriau o waith a roddwyd i'w gwneud. Gall gwisg gymryd rhwng 25 - 200 o oriau i'w gwblhau, a gwerthwyd un ffrog priodas am 拢4,000 yn ddiweddar!
Dywed Gill bod gan y darpar bar priod eu syniadau pendant am steil ac addrn y gwisgoedd. Defnyddir pob math o ddefnyddiau wrth gynllunio'r gwisgoedd melfed, sidan a chotwm, ac mae defnyddiau lIedr yn arbennig o boblogaidd ar gyfer gwisgoedd y dynion. Gwneir hefyd ychydig o waith ymchwil ar wisgoedd canoloesol gan y cwmni cyn dechrau cynllunio.
Diddorol yw deall na chafodd 'run o'r gwragedd eu hyfforddi mewn gwniadwaith na chynllunio, ond bod ganddynt diddordeb yn y maes. Bydd y gwisgoedd yn cael eu gwneud a pheiriant gwnio, tra bydd y gwaith brodwaith a pherlau cywrain yn cael eu gwneud a lIaw. Yn wir roedd y gwisgoedd yn werth eu gweld.
Jean a Trisha sy'n bennaf gyfrifol am gynllunio a gwneud y gwisgoedd gyda chymorth dwy gynorthwraig rhan amser, tra gofalu am y gwaith papur a chyfarfod a'r cwsmeriaid yw prif waith Gill.
Dangoswyd diddordeb yn Ileol yn y fenter, a bydd y cwmni yn brysur yn trefnu pedwar priodas ganoloesol o fewn y Sir yn ystod y misoedd nesaf, gyda Chastell Rhuthun yn lIeoliad poblogaidd i gynnal y diwrnod pwysig. Yn ogystal a'r gwisgoedd bydd y cwmni yn darparu ychwanegiadau fel addurniadau ar gyfer y bwrdd gan gynnwys Ilestri pren, ffiolau gwin, canhwyllau ac ati. Gellir hyd yn oed logi siwt arfau lIawn ar gyfer y diwrnod!
Er mai priodasau yw prifwaith y cwmni, maent hefyd yn paratoi gwisgoedd ar gyfer achlysuron arbennig eraill, e.e. partion Nadolig a threfnir themau fel y GorlIewin Gwyllt, Nosweithiau Arabaidd ac yn y blaen.
Symud 'mlaen
Prif nod y cwmni yn y flwyddyn diwethaf oedd symud y busnes i hen Siop XL yng Nghorwen. Bydd lIawer yn yr ardal yn cofio Siop XL yn gwerthu dillad merched o safon yn ogystal a chynnig gwasanaeth addasu gwisgoedd. Dywed Gill iddynt fabwysiadu yr hen gelfi o Siop XL wrth brynu'r adeilad, a bellach mae'r celfi yn cael eu hail defnyddio i gadw y defnyddiau a'r offer gwnio - yn union fel yn y gorffennol!
Os oes gan rai o ddarllenwyr y Bedol awydd lIogi neu brynu gwisgoedd gan y cwmni, yna gellir cysylltu a'r siop ar 01490 413141. Fel arfer mae modd gwneud apwyntiad i weld Gill yn ystod y Suliau neu ar nos Fercher.