Yn 1827 cytunodd cyfarfod plwyf i adeiladu t欧 ac ysgoldy ar ddarn o dir yr ysgol. Yn 1871 anfonwyd cais i'r Adran Addysg yn gofyn am sefydlu Bwrdd Ysgol ar gyfer Bryneglwys. Cynigwyd hyn gan Richard Jones T欧'n y Wern ac eiliwyd gan Michael Thomas Llwyn Onn, ond, gwrthodwyd y cais. Yna rhoddodd William Yale dir ar gyfer adeiladu Ysgol Genedlaethol newydd ac fe'i hadeiladwyd am 拢376.Agorwyd yr Ysgol newydd ar Fawrth 3ydd 1873 gyda William Jones yn cymryd gofal am yr ysgol gyda naw ar hugain o ddisgyblion a dyfodd i gant a saith yn ystod y flwyddyn a'r plant yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Saesneg er mai Cymraeg oedd iaith y plant ar yr aelwyd gartref.
Yn 1876 penodwyd Mr Naylor yn Brifathro a buan iawn yr oedd yn cwyno: "I find it a difficult task to make the younger children understand English."
Ffaith ddiddorol arall oedd nad oedd y bechgyn yn hoffi gwersi Mathemateg! Hefyd yn 1880 rhoddwyd y gorau i roi gwaith cartref i'r plant gan fod marcio'r gwaith yn cymryd gymaint o amser!
Yn ystod y cyfnod hwn caewyd yr ysgol am gyfnodau hir oherwydd heintiau fel difftheria a'r dwymyn goch (scarlet fever) yn ogystal ag wythnosau a misoedd weithiau oherwydd stormydd gaeafol yr eira oedd wedi ynysu'r pentref.
Ni cheir unrhyw gyfeiriad at y Gymraeg fel pwnc yn yr ysgol tan 1907. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd Mr Tom Owen oedd y Pritathro. Daeth nifer o efaciw卯s i ymgartrefu yn y pentref a defnyddio'r Neuadd fel lle i'w haddysgu. Roedd y ficer y Parch W. Roger Hughes yn ymwelydd cyson 芒'r ysgol a'r plant yn cael cyfle i gyfarfod 芒 bardd cadeiriol Eisteddfod Powys. Ymddeolodd Mr Owen yn 1951 ar 么l treulio 31 o flynyddoedd fel Prifathro. Meirion Thomas oedd y Prifathro nesaf ac yn ei adeg o y dechreuwyd cynnig cinio ysgol i'r plant am bris rhesymol iawn.
Yn 1956 daeth Meirion Parry yn Brifathro - arbenigwr ym myd natur. Dim ond dwy flynedd y bu yno a dwy flynedd ar hugain y bu ei olynydd Ll欧r Thomas y dathlwyd canmlwyddiant yr ysgol ac fe gynhaliwyd gwasanaeth yn yr Eglwys.
Yn 1980 Emyr Wyn Jones a ddaeth yn Brifathro a dyna pryd y penderfynwyd gefeillio ysgol Bryneglwys gyda Ysgol Llandegla. Pan ddaeth Roger Hayward yn Bennaeth y ddwy ysgol yn 1989 mabwysiadwyd yr enw "Ysgol Dyffryn I芒l" er mwyn sicrhau undod yr ysgol. Am gyfnod byr bu Sian Rogers yn Bennaeth yn 1999 ac yna penodwyd Eryl Roberts yn 2000.
Dim ond braslun byr yw'r nodiadau hyn am hanes ysgol bentref Bryneglwys wedi eu casglu wrth holi hwn a'r llall ar gyfer yr erthygl hon. Os am lawer mwy o wybodaeth a ffeithiau diddorol mae yna lyfr allan yn ddiweddar o hanes Bryneglwys, Un tro ar Ben Bryncyn gan Margaret Harvey ac ynddo mae pennod hynod o ddifyr o hanes Ysgol Bryneglwys. Mae'n lyfr gwerth ei ddarllen.
Gellir amcangyfrif bod dros 1,300 o blant wedi derbyn eu haddysg yn adeilad Ysgol Bryneglwys ers 1873. Wrth ystyried hyn rhaid cydnabod dyled enfawr yr ardal i'r Ysgol bentref.
Da o beth fuasai i swyddogion a chynghorwyr ystyried mor werthfawr yw'r ysgol bentref wledig i bob cenhedlaeth.
ATGOFION AM YSGOL BRYNEGLWYS
-1968-1974
Ar ddechrau Ionawr 1968, yn ferch fach bedair oed, y camais dros riniog Ysgol Bryneglwys am y tro cyntaf yn syth i ofal mamol Mrs Olwen Roberts, yr athrawes fabanod. Mi 'roedd gen i feddwl y byd ohoni drwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol, a'r wers gwaith llaw i'r genethod ar b'nawn dydd Gwener yn uchafbwynt yr wythnos nid yn unig am i ni gael dysgu gweu a gwnio, ond hefyd gan ei fod yn gyfle i sgwrsio a dweud ein hanesion wrth Mrs Roberts. Dwi'n siwr iddi glywed cryn dipyn o glecs Bryneg drwyddon ni!
Yn saith oed symudais i'r dosbarth mawr at Mr Ll欧r Thomas, y Prifathro. Bod allan yn yr awyr iach oedd yn mynd 芒'i fryd ef, a byddai yn ein harwain ar deithiau natur ar bob cyfie. Mr Thomas yn brasgamu i fyny allt Pant ac ymlaen at y Gefnffordd, neu fyny heibio'r Ficerdy a T欧 Newydd am y mynydd, a ninnau'r plant yn bustachu ar ei 么l!
Yn neuadd y pentref, drws nesa i'r ysgol (ar safle'r cae chwarae heddiw) yr oedd ein gwersi Addysg Gorfforol yn y gaeaf, a'r ffram ddringo haearn fawr, fu yno ers 1953, yn ganolbwynt i'r gwersi.
'N么l yn y dosbarth, Mathemateg oedd fy hoff bwnc. Byddwn hefyd yn mwynhau gwylio rhaglenni cerdd a gwyddoniaeth ar y teledu, a gwrando ar ddram芒u ar y radio, er, gallai canolbwyntio ar y rhain fod yn anodd weithiau pan fyddai'r dosbarth yn boeth, y ddrama'n hir a'r awydd i gysgu'n llethol.
Yn wahanol i gyfnod fy nhad a'i deulu yn yr ysgol, y Gymraeg oedd y prif gyfrwng dysgu a hefyd iaith gymdeithasol yr ysgol. Pan ddechreuai plentyn o Sais yn yr ysgol cai ei gwmpasu mewn Cymreictod ac felly'n fuan iawn, byddai'n siarad Cymraeg yn rhugl. Dyddiau da i'r iaith yn yr ysgol oedd y rhain. Wrth edrych yn 么l ar fy nghyfnod ynYsgol Bryneglwys, dau o 'mhrif atgofion yw mai cymuned gartrefol oedd hi i ni'r plant, ein teuluoedd a'r staff a phawb yn adnabod ei gilydd ac yn barod bob tro 芒 chymwynas neu gymorth.
A'r atgof arall, wel 'Banana Flan' Mrs Heulwen Roberts, y Gogyddes bendigedig!
Mari (Deio gynt)
Atgofion David Salisbury Davies
(Plas yn Rhos gynt)am Ysgol Bryneglwys yn y 1930au
Dechreuais yn yr ysgol yn y 30au pan oeddwn yn 5 oed. Fyddai neb yn dechrau cyn hynny, a byddai rhai yn llawer h欧n.
Cerdded y ddwy filltir i'r ysgol fyddwn i, neu redeg gan amlaf, efo fy chwaer a fy mrodyr. Weithiau byddwn yn mynd ar fy meic bob yn ail a'm chwaer - y cynta'n mynd arno am ychydig a'i adael ar y clawdd a cherdded ymlaen, tra oedd y llall yn mynd arno wedyn a gwneud yr un fath nes cyrraedd yr ysgol. Cofiaf am un bachgen yn dod i'r ysgol ar gefn merlen. Unwaith yn yr ysgol, gyrrai'r ferlen adref ar ei phen ei hun, yna ar ddiwedd pnawn, byddai'r ferlen yn dod yn ei h么l i'r ysgol i'w gario adre.
Mr Tom Owen oedd y Prifathro, a dwy athrawes, Miss Roberts a Miss Lake. Hannai Miss Lake o Dde Cymru, ond ymgartrefodd yn y pentref wedi iddi gyfarfod a phriodi llanc lleol. Roedd yn ysgol eglwys, ac felly roedd y gwasanaeth boreuol yn eglwysig ei naws. Yn Saesneg y byddai'r gwersi yn cael eu cynnal, er mai Cymry oedd yr athrawon a'r plant bron i gyd. Nid oedd s么n am systemau gwres canolog bryd hynny, felly cynheswyd yr ysgol gyda thannau glo, grat yr un yn y ddau ddosbarth. Byddai'r rhain yn ddefnyddiol iawn i sychu ein dillad wedi inni wlychu wrth ddod i'r ysgol ar dywydd garw.
Pan gynhaliwyd rhywbeth neilltuol yn yr ysgol agorwyd y 'partisiwn' rhwng y ddwy ystafell ddosbarth i wneud un ystafell fawr. Nid oedd cegin yn yr ysgol yr adeg hynny, felly roeddem yn dod 芒'n cinio hefo ni, brechdanau a llefrith mewn potel fechan. Hefyd, byddem yn cael 'Horlicks' i'w yfed ganol bore.
'Roedd t欧 a gardd y prifathro ynghlwm 芒'r ysgol, a byddem ni'r bechgyn yn helpu yn yr ardd ar adegau yn yr haf. Gan nad oedd adnoddau chwaraeon yn yr ysgol, fel sydd heddiw, byddem ni'n creu ein hadloniant ein hunain ar amser chwarae. Gemau fel rowndei, 'hop scotch', chwarae 'tip' a rhedeg ras.
Ar y ffordd adre byddem yn mynd heibio'r garej leol lle cedwid mul a borai ar ochr y ffordd fawr. Cawsom lawer o hwyl yn trio mynd ar ei gefn ond nid oedd y mul o'r un farn, a byddain troi ei gefn atom ac yn cicio. Yn nes at adre, roedd pont dros afon Morynion ac amser difyr i'w gael yn y fan honno hefyd, ac o ganlyniad, pregeth gan mam am fod yn hwyr yn cyrraedd adre!
Newid mawr i mi oedd mynd o ysgol fechan wledig a thua 50 o blant i ysgol fwy yng Nghaerpoeth yn 11 oed. Dyma waith dwy Gymraes sy'n ddisgyblion yn Ysgol Bryneglwys heddiw yn 2005
Ysgol Dyffryn I芒l
Fy enw i ydy Siwan Jones. Dwi'n byw yn Bryneglwys. Fy oed i ydy 10. Dwi'n mynd i Ysgal Dyffryn I芒l.Mae Ysgal Dyffryn I芒l yn ysgol GRET!
Mae pawb yn ffrindiau. Fy hoff wers ydy arlunio. Rydyn ni'n tynnu llun o offerynnau a'u peintio nhw hefyd.
Dim ond dau blentyn sy'n siarad Cymraeg yn iawn ond mae pawb yn siarad dipyn o Gymraeg.Y diwrnod cyntaf des i Ysgol Dyffryn I芒l wnes ffrindiau ac ryden ni yn dal yn ffrindiau rwan ond mae dau ohonyn nhw wedi symud ysgol ond ryden ni'n dal yn ffrindiau.
Fy hoff beth i i'w wneud yn yr ysgal ydy pob peth achos mae'n nhw i gyd mor hwyl achos mae Ysgol Dyffryn I芒l yn wych!
Mae pawb yn helpu ei gilydd ac os byddwn ni'n ffraeo byddwn ni yn ffrindiau cyn gallu dweud "Ysgol Dyffryn I芒l".
Dydw i ddim eisiau i Ysgol Dyffryn I芒l, gau and dwi yn mynd i Ysgol Brynhyfryd y flwyddyn yma and dw i wedi cael saith o flynyddoedd bendigedig yn Ysgol Dyffrn I芒l.
Siwan Jones,
Blwyddyn 6
Fy enw i ydi Awel. Dwi'n byw yn Bryneglwys. Dw i'n 9 oed. Dwi'n mynd i Ysgol Dyffryn Ial. Fy hobiau ydi marchogaeth, nofio a reidio fy meic.
Mae'r ysgol yn dda. Rydym, yn dysgu Cymraeg, Saesneg, Arlunio, Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Mathemateg a Dylunio a Thechnoleg. Fy hoff wers ydi Arlunio.
Pan ddes i'r ysgol roeddwn yn meddwl ei bod yn ysgol neis ac mae hi. Mae pawb yn ffrindiau. Roedd gen i ffrind o'r enw Hannah, ond symudodd ysgol. Dw'i ddim yn gwybod pam achos mae'r athrawon yn neis.Does neb yn ffraeo ac mae hi'n ysgol braf.
Roedd ein ysgol ni yn mynd i gau, ond gwnaeth y rhieni brotestio ac yn y diwedd daeth dyn i'r ysgol a dweud bod nhw ddim yn mynd i gau'r ysgol. Fe wnaeth ddathlu a chael gwin! Pan glywsan ni bod yr ysgol yn mynd i gau roeddwn i wedi torri fy nghalon.
Awel Roberts.
Blwyddyn 4