|
|
|
Dirgelwch Llwyau Llanfair Ceisio mynd at wraidd dirgelwch llwy-r. |
|
|
|
Canodd y ff么n. Llais gwraig: "Wyt ti wedi colli modrwy aur?" Meddyliais am eiliad. "Wel do, yn 1975, gollais i fodrwy briodas Nain yn rhywle," meddai finnau. "Dwi wedi dod o hyd iddi, wrth balu yn yr ardd ddoe. Es i ar y Rhyngrwyd, a gweld bod y marc sydd arni'n golygu 1905." "le, dyna'r union flwyddyn briododd Nain," meddwn innau. Perchennog presennol ein hen dy ni yn Llanfair oedd ar y ff么n. Diolch o galon iddi am ddychwelyd y fodrwy. Huw Jones Cae Groes I lawr yr allt o'r hen dy, fe gollodd rhywun arall rhywbeth rywdro, ond aeth canrifoedd heibio cyn i hwnnw ddod i'r golwg. Un bore o haf wrth fynd am dro yn ymyl Ffynogion, sylwodd Huw Jones, Cae Groes Rhuthun, ar ddernyn gwyrdd yn brigo i'r wyneb mewn swp o bridd. Nid tro fach hamddenol, dawel ar lannau'r Afon Clwyd mo hon chwaith; prysur dros ben oedd hi'r diwrnod hwnnw a myrdd o ddynion cyhyrog yn ceibio a rhawio ac wrthi'n adeiladu'r rheilffordd o Ruthun i Gorwen. Bore o haf yn 1861 oedd hi. Gan fod Huw Jones Cae Groes yn un oedd yn cymryd diddordeb yn y byd o'i gwmpas dyma fo'n procio 芒'i ffon ac i lawr a fo ar ei gwrcwd er mwyn gweld beth oedd y darn o fetel a gafodd ei rawio gyda'r pentwr o bridd. Dyma ddwy lwy. gyda thyfiant crwst gwyrdd y canrifoedd yn eu glynu at ei gilydd, yn ymddangos. Cafodd Huw Jones drafferth fawr i'w gwahanu. 'Dwy lwy' yn sicr..wel, yn weddol sicr...hwyrach. Holi Mr Boswell Bryd hynny, roedd mynd mawr ar 'hynafiaethau' ymysg y bobl o sylwedd oedd 芒 digon o amser rhydd i ymddiddori yn y pwnc, ac aeth Huw Jones 芒'i ddwy lwy at ryw 'Mr Boswell' o Ruthun, rhywun oedd yn deall rhywbeth am hen greiriau, am wn i. Achosodd y llwyau beth cyffro. Beth oedd eu pwrpas? Eu hoedran? O ble y daethant?Bu hen drin a thrafod rhwng Mr Boswell o Ruthun a rhyw Mr Franks o ....o Rywle Arall a'r byd a'r betws a'i frawd hefyd cyn dod i'r casgliad syfrdanol bod y llwyau...Yn Ddirgelwch Llwyr. Barnwyd mai dyma'r ' ffeithiau' am y llwyau : * Chwech o lwyau tebyg yn unig y gwyddys amdanynt, pedair (dau bar) yn yr Iwerddon yn y Royal Irish Academy, un yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, a'r llall ym meddiant rhyw 'Mr Smith'. * Gwnaethpwyd y 'llwyau' o efydd, gyda chyfradd uchel o gopr ynddo *Daeth y ddwy lwy o'r un mowld *Roedd llinellau ar siap croes syml wedi'u hysgathru ar un o'r llwyau *Mesurai'r llwyau dair modfedd o hyd A dyma rhai o'u syniadau ynghylch beth ar wyneb y ddaear (neu jest o danodd) roedden nhw. * 'Cragen lago' o eiddo rhyw bererin oedd ar ei ffordd adre o Santiago de Compostela yn Sbaen? Nage - dim modd clipio'r bathodyn at eich dillad! * Teclyn i sgimio'r hufen oddi ar y llefrith? - Nage, y si芒p yn hynod o aneffeithiol at y pwrpas hwnnw. * Rhywbeth i'w ddefnyddio mewn Cymundeb Sanctaidd, i ddal y bara, y gwin efallai? Na! - y crefftwaith yn rhy arw. * I fedyddio plentyn? - Na, byddai'n rhy drwsgl. A pham fod angen p芒r o lwyau? * Rhywbeth yn ymwneud 芒'r Gwyddelod tybed? Wedi'r cwbl roedd Irishman's Marsh yn ddim ond chwe milltir i lawr y ffordd.(Gwyddelwern!) Wel, a dweud y gwir yn onest - 'allai neb wneud na rhych na rhawn o'r hen lwyau. Ond fel y dywedodd 'Mr Boswell' ei hunan: "Time may perhaps one day clear up the mystery of the very spoon-like articles". Ble mae llwyau efydd Ffynogion erbyn hyn? Anfonwch air atom os gwyddoch eu hanes. Efallai bod rhywun wedi cael amser i ddatrys y dirgelwch ers i Huw Jones Cae Groes blygu i lawr yng nghae Ffynogion bron ganrif a hanner yn 么l. (Beth bynnag a ddeilliodd o helynt y llwyau, rydw innau'n hynod o falch fod dirgelwch modrwy briodas fy Nain wedi'i ddatrys).
|
|
|
|
|
|