大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Actores leol yn 'The Crucible' - Theatr Clwyd
Cyfle i eneth o'r fro actio mewn drama enwog.
Mi es i i glyweliad yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug ar gyfer rhan Betty Parris yn nrama Arthur Miller, 'The Crucible'.

Roedd tua 60 o ferched yno ac mi ges i ffit biws wrth glywed hanner y merched yn siarad ar y ff么n gyda'u asiant! Doedd gen i ddim gobaith!

Roedden nhw eisiau rhywun o dan bum troedfedd gyda acen Gymraeg. Wel, mi aeth y 60 yn bump, a chyn i mi droi mi ges i wybod mai Megan a fi oedd wedi cael y rhan!

Am y tro cyntaf erioed roeddwn i'n falch fy mod i'n fach! Rydw i'n adnabod Megan, sy'n dod o Gaerwys, ers rhyw flwyddyn bellach. Mae hi 2 flynedd yn iau na fi yn yr ysgol ac mi rydan ni'n dwy yn ymddiddori mewn actio. (Roedden nhw angen dwy i wneud y rhan gan fod yr oriau ymarfer a'r oriau perfformio yn rhy hir i unrhyw un dan 16 oed.)

Roedd fy nghymeriad i sef Betty Parris yn naw oed ac yn ferch i'r Parchedig Samuel Parris, (a oedd yn cael ei chwarae gan Simon Armstrong) gweinidog Salem. Er bod y ddrama, yn wreiddiol, wedi ei lleoli yn Massachusetts, U.D.A, roedd y cyfarwyddwr sef Terry Hands wedi ei newid i fod mewn pentref bychan yn Ne Cymru. Roedd hyn yn addas iawn gan fod nifer o'r cast yn dod o'r De a chanddyn nhw acen Ddeheuol gryf.

Gyda llai na phythefnos i fynd tan y noson agoriadol, roedd angen ymarfer! Roedd yr actorion eraill wedi bod yn ymarfer ers dechrau Medi a phawb yn nabod ei gilydd yn iawn. Roedd Megan a fi'n teimlo ychydig yn nerfus yn ystod yr ymarferion cyntaf, ond buan iawn y daethon ni i adnabod pawb hefyd.

Roedd gen i chaperones yn dod i fy n么l i a'm danfon i adref ar 么l yr holl ymarferion a'r holl berfformiadau oedd yn braf iawn (i mam!). Roedd Vicky ac Emma (y chaperones gyda mi ymhob ymarfer a gyda mi gefn llwyfan yn ystod y perfformiadau. Mi fuon ni'n ymarfer ar 么l yr ysgol ac ar ddau benwythnos, ac yna roedd wythnos y "tech".

Dyma pryd roedden ni'n ymarfer ar y llwyfan gyda'r set, y goleuadau a'r gwisgoedd. Mae pedair act yn y ddrama ac roeddwn i'n ymddangos mewn dwy ohonyn nhw, felly roedd 'na dipyn o sefyllian o gwmpas tra roedd pawb arall yn ymarfer. Er hynny roedd hi'n ddiddorol iawn gweld yr holl beth yn syrthio i'w le o'r diwedd.

Fe wnes i 12 perfformiad rhwng Hydref 9 a Thachwedd 1, a mwynhau bob un, er ei bod hi'n chwilboeth ar y llwyfan! Er bod llawer o sefyllian o gwmpas gefn llwyfan yn ystod perfformiadau, doedd hi byth yn ddiflas, ac mi fu hi'n brofiad gwych cael dod i adnabod actorion mor brofiadol a phroffesiynol.

Roedd 19 yn y cast yn cynnwys Julian Lewis Jones, Ifan Huw Dafydd, Dyfed Thomas a Steffan Rhodri. Bu hefyd yn brofiad anhygoel i weithio gyda'r cyfarwyddwyr Terry Hands. Fe fu'n gyfarwyddwr gyda'r Royal Shakespeare Company am 25 mlynedd ac mae'n gyfarwyddwr enwog iawn ym myd y theatr, felly braint oedd cael gweithio gyda fo.

Roedd hi'n ddiddorol iawn hefyd i weld yr holl gamau o lwyfannu drama o'r fath. A minnau'n gobeithio bod yn actores broffesiynol rhyw ddydd, profiad bythgofiadwy oedd cael bod yn rhan o'r ddrama ac o'r cast.

Bydd The Crucible yn ddrama fydd yn agos iawn at fy nghalon i am byth!

Non Haf Davies, Llandyrnog


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy