Cofio Tom Pryce Mehefin 2009 Cafodd Tom Pryce, y rasiwr ceir o Ruthun, ei ladd mewn Grand Prix Fformiwla Un ym 1977. Nawr mae cerflun i gofio amdano wedi ei ddadorchuddio yn y dref.
Dydd Iau, 4 Mehefin, daeth tyrfa fawr i Ruthun i weld gweddw Tom Pryce, Nally, yn dadorchuddio cerflun i gofio amdano. Roedd Gwyneth Pryce, ei fam, yn bresennol ynghyd â nifer o'i gyfeillion o fyd rasio Ceir.
Ganwyd ym 1949 ac er iddo cael gyrfa mor fer, roedd wedi llwyddo i ennill enw da yn y byd Fformiwla 1.
Dyma gasgliad o luniau o Tom a anfonwyd gan gyfranwyr i'r wefan.