Mae hi'n flwyddyn bwysig iawn yn ein hanes fel cenedl eleni gan mai yn 1404, union 600 mlynedd yn ôl y sefydlwyd y Senedd Gymreig a choroni Owain Glyndŵr yn Dywysog ar Gymru yn Machynlleth. Y Cefndir hanesyddol
Ar Fedi 16 1400 cyfarfu Owain Glyndŵr â gwladgarwyr eraill yng Nglyndyfrdwy. Dyna pryd y cafodd ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru a penderfynwyd wrthryfela yn erbyn rheolaeth Lloegr ar ein gwlad. Ychydig ddyddiau wedyn, gorymdeithiodd byddin bychan dan faner Glyndŵr i gopa Caerdrewyn. Cynlluniwyd i ymosod ar dref gaerog Rhuthun ar Ddydd Sant Matthew, sef Medi 23, a dyna gychwyn Rhyfel Ryddhad 1400 -1416.
Wedi bron i 300 mlynedd o goncwest ers trychineb marwolaeth Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282, roedd y Cymry wedi ennill eu hannibyniaeth.
Un sefydliad sydd wrthi yn trefnu i ddathlu'r digwyddiadau hyn yw Llysgenhadaeth Glyndŵr, ac maent yn ein annog fel Cymry i gynnal Coffâd Cenedlaethol. Dyma rai o syniadau'r sefydliad ar gyfer y dathlu:
Medi 16 - Ymgyrch Dydd Glyndŵr
Nôd Llysgenhadaeth Glyndŵr yw sefydlu Medi 16 fel Dydd Glyndŵr a'i wneud yn ddiwrnod hanesyddol blynyddol o bwys. Os ydych yn dymuno gweld Medi 16 yn ŵyl genedlaethol, mae'r Llysgenhadaeth yn argymell eich bod yn 'sgwennu at eich aelodau seneddol, aelodau o'r Cynulliad a chynghorwyr lleol, trefnu deiseb a 'sgwennu llythyrau at y wasg.
Pasiant i Dywysog Owain
Mae'n fwriad gan Llysgenhadaeth Glyndŵr i hyrwyddo, cynhyrchu a pherfformio menter theatrig enfawr dan y teitl "Cronicl y Coroni - Pasiant i Dywysog Owain Glyndŵr mewn cyn gymaint o gymunedau ag sy'n bosibl rhwng Mai a Medi 2004. Y syniad yw bod cymunedau lleol yn mynd ati i gynhyrchu a pherfformio eu cynhyrchiad unigryw o hanes Owain Glyndŵr gan fanteisio ar wybodaeth a sgiliau pobl leol. Os oes gan unrhyw un diddordeb mewn cynhyrchu pasiant o'r fath, cysylltwch â Llysgenhadaeth Glyndŵr.
Theatr Treftadaeth Tywysog Owain Glyndŵr
Mae'r Llysgenhadaeth wedi bod yn datblygu menter 'Theatr Treftadaeth Tywysog Owain Glyndŵr' ers 2001. Y syniad yw croesi'r ffin o'r hyn a ystyrir yn 'ffurfiau confensiynol' o theatr, gyda'r pwyslais ar berfformio yn yr awyr agored, mewn theatrau a chanolfannau cymunedol, neuaddau ysgol, cestyll a pharciau cyhoeddus yn ogystal â chanol trefi.
Bwriedir sefydlu Pwyllgor Cenedlaethol - Antur Theatr Glyndŵr i hyrwyddo'r amcan hon.
Gwyliau Glyndŵr Cymru - Haf 2004
Bydd Coffâd 1402 - 2004 yn cychwyn yn Nolgellau yn ystod mis Mai 2004 er mwyn nodi'r gynhadledd hanesydd gynhaliwyd yno gan Owain Glyndŵr ar Fai 10, sef Senedd cyntaf Tywysog Owain. Bydd hyn yn fan cychwyn dymor hafaidd hir o "Wyliau Glyndŵr" fydd yn cymryd lle drwy Gymru. Daw'r flwyddyn coffâu i ben yn swyddogol gyda "Wythnos Owain Glyndŵr" yn cymeryd lle yng "ngwlad Glyndŵr" lle canolir y pwyslais ar weithgareddau yn nodi Medi 16.
Felly os oes gennych ddiddordeb gwybod mwy am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Llysgenhadaeth Glyndŵr 41, Heol Conwy, Treganna, Caerdydd. Ffôn: 029 2030 7018.